Mae tafarn yn Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei chau am dorri rheoliadau’r coronafeirws.

Mae’r hysbysiad cau wedi cael ei roi i Westy’r Castell, Llanbedr Pont Steffan gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Gwelodd y swyddogion fod y safle wedi methu cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl ar y safle a sicrhau nad oes hawl gan bobl nad ydynt o’r un aelwyd ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 4 person, fel y nodir yn Rheoliad 6. Methodd y busnes hefyd i gyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos rhwng pobl a chynnal arferion hylendid, sy’n cynnwys methu â newid cynllun y fangre, rheoli’r defnydd o seddi, rheoli a chyfyngu ar y defnydd o goridorau, toiledau a mynedfeydd, ynghyd â chasglu gwybodaeth gyswllt ddilys, ymhlith rhesymau eraill.

Bydd yr hysbysiad yn dod i rym yn syth ddydd Llun, 16 Tachwedd 2020, ac yn parhau tan 30 Tachwedd 2020. Gellir gweld yr hysbysiad cau yn llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

16/11/2020