Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i dafarn yn Llanbedr Pont Steffan wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn rhan o reoliadau’r coronafeirws.

Mae Hysbysiad Gwella Mangre wedi cael ei gyflwyno i The Ivy Bush Inn, Llanbedr Pont Steffan gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Yn rhan o’r Hysbysiad Gwella Mangre, mae’n rhaid i'r dafarn sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y fangre, gan barchu nad oes hawl gan bobl nad ydynt o’r un aelwyd ymgynnull mewn grwpiau o fwy na 4 person. Bydd hefyd yn rhaid iddynt sicrhau bod rhywun yn rheoli’r mynediad i’r fangre a nodi terfyn amser ar gyfer arhosiad cwsmeriaid yn y fangre. Rhaid iddynt hefyd gyflwyno mesurau i sicrhau bod cwsmeriaid yn eistedd unrhyw le heblaw am wrth y bar pan fyddant yn archebu, bwyta neu’n cael eu gweini; ynghyd â chasglu gwybodaeth gyswllt fanwl gan bob cwsmer.

Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 14:00 ar 20 Tachwedd 2020, a gellir dod o hyd i’r hysbysiad llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor o dan Cefnogi Economi Ceredigion

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

18/11/2020