Gofynnir barn ar Bolisi Gorfodi Corfforaethol newydd a gynhyrchwyd gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am weinyddu a gorfodi ystod o ofynion deddfwriaethol rheoleiddio sy'n amrywio o Iechyd Anifeiliaid a Thrwyddedu i Ddiogelwch Bwyd a Chynhwysiant Addysg.

Er bod rhai meysydd gwasanaeth wedi cael eu Polisi Gorfodi eu hunain ers sawl blwyddyn, dyma'r ymgais gyntaf i ddylunio fframwaith polisi cyffredinol ar lefel uchel y gellir ei gyfeirio ato gan ystod o swyddogion o fewn y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, “Nid yw'r penderfyniad i gymryd camau gorfodi, neu beidio â chymryd, yn cael ei gymryd yn ysgafn gan y gallai fod â goblygiadau i bawb dan sylw. Felly mae'n bwysig bod polisi ar waith i arwain swyddogion i sicrhau dull cyson wrth ddefnyddio'r ystod o offer gorfodi sydd ar gael iddynt.”

Fel Cyngor sy'n ymfalchïo ar dryloywder a chysondeb, mae sylwadau adeiladol, yn enwedig gan y rhai a allai gael eu heffeithio gan y polisi hwn, mewn perthynas ag unrhyw agwedd o’i gynnwys, yn cael eu croesawu. Croesawir hefyd farn os yw’r polisi fwy neu lai yn iawn fel y mae ac os y dylir gwneud ychwanegiadau neu ddileu unrhyw agweddau o’r polisi, ac os felly, beth?

Parhaodd y Cynghorydd Lloyd, “Yn bwysig, mae'r Cyngor o'r farn bod y rhan fwyaf o fusnesau ac unigolion am gydymffurfio â'r gyfraith. Bydd cymorth yn cael eu darparu i'w galluogi i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol heb draul diangen, tra bydd camau cadarn yn cael eu cymryd yn erbyn y rheini nad ydynt yn ystyried y gyfraith yn bwysig neu'n gweithredu'n anghyfrifol. Croesawir sylwadau a fydd yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i'r drafft terfynol gael ei fabwysiadu gan y Cabinet. Bydd hyn yn sicrhau bod y Polisi Gorfodi Corfforaethol yn gynhwysfawr i Swyddogion ei ddefnyddio.”

Croesawir sylwadau cyn i'r polisi gael ei adrodd i'w Gabinet ar 10 Gorffennaf 2018. Medrir darllen y Polisi ar dudalen ymgynghoriadau. Medrir danfon sylwadau drwy e-bost i tradingstandards@ceredigion.gov.uk neu drwy’r post at David Lloyd Roberts, Rheolwr Gwasanaethau Defnyddwyr, Polisi a Pherfformiad, Gofal, Amddiffyn a Ffordd o Fyw, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA erbyn dydd Gwener, 22 Mehefin 2018.

 

22/05/2018