Mae partneriaid yng Nghanolbarth Cymru wedi dechrau ar gydweithrediad arloesol a fydd yn cefnogi’r rhanbarth i wneud y newidiadau arwyddocaol a hanfodol sy’n ofynnol er mwyn cyrraedd targedau di-garbon y DU erbyn 2050.

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n helaeth mewn partneriaeth â phob rhanbarth ar draws Cymru. Yma yng Nghanolbarth Cymru mae’r gwaith wedi arwain at Weledigaeth a Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru.

Mae’r strategaeth, a ddatblygwyd dros gyfnod o 18 mis gan ystyried barn cannoedd o randdeiliaid, wedi’i chymeradwyo gan gabinet Cyngor Sir Powys ac mae i’w hystyried gan Gyngor Sir Ceredigion ddydd Mawrth (Mawrth 16).

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorwyr Rosemarie Harris ac Ellen ap Gwynn: “Mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae i sicrhau bod gennym system o gynhyrchu a chyflenwi ynni carbon isel a chost isel yn ddibynadwy i’n busnesau a’n cymunedau ledled Canolbarth Cymru.

“Fel Arweinwyr ein Hawdurdodau Lleol a’n gwaith ar y cyd gyda Tyfu Canolbarth Cymru, fe glywn yn rheolaidd beth am gyfyngiadau ein system ynni gyfredol ar ein pobl a’n busnesau, o gyfyngiadau’r grid i’r angen i drawsnewid ein system ynni i leihau gollyngiadau carbon a chynyddu perchnogaeth leol a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

“Bydd angen ymdrech sylweddol i gyflenwi’r weledigaeth hon ar draws bob lefel o Lywodraeth, Diwydiant a chymunedau – ond rydym mewn sefyllfa dda i arwain ar nifer o fentrau yng Nghanolbarth Cymru. Byddwn yn ceisio sefydlu strwythurau ymgysylltu newydd a gallu penodedig i symud y gwaith hwn yn ei flaen o ddifri yn y misoedd sydd o’n blaenau.”

Mae’r strategaeth y cynnig glasbrint eglur ar gyfer tyfu ein heconomi ac ymateb i fygythiad newid yn yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae wedi’i ddylunio i sicrhau bod gan Canolbarth Cymru droedle cadarn ar y llwybr i gyrraedd sefyllfa ddi-garbon erbyn 2050 a chyflenwi manteision cymdeithasol ac economaidd ochr yn ochr â dyheadau’r rhanbarth am dwf yn y dyfodol. Bydd yn trawsnewid y system ynni ranbarthol gan sicrhau ei bod yn hyblyg, yn ddibynadwy ac yn addas i’r diben yn y dyfodol di-garbon.

Datblygwyd y strategaeth gydag ystyriaeth bwrpasol i amgylchedd polisi a strategaeth Llywodraethau’r DU a Chymru, er enghraifft y Cynllun 10-Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd, Cymru Carbon Isel, gydag uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn greiddiol i hyn a pholisiau Powys a Cheredigion i dorri allyriadau carbon i sero erbyn 2030 yn unol â tharged sector cyhoeddus Cymru.

Mae’n adeiladu ar yr uchelgeisiau strategol ar gyfer Ynni fel y manylwyd arnynt yn y Weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru a gyhoeddwyd fis Mai 2020 ac yn ategu’r cynlluniau a’r polisïau lleol sy’n datblygu o’r Byrddau Sector Cyhoeddus a sefydliadau lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith sy’n datblygu ar draws Canolbarth Cymru i’w gweld ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru.

15/03/2021