Crëwyd arwyddion templed a stensiliau llawr newydd er mwyn helpu i wella'r modd y mae gwastraff yn cael ei gyflwyno mewn cyfleusterau storio biniau o amgylch Ceredigion.

Datblygodd Tîm Gwasanaethau Gwastraff Cyngor Sir Ceredigion y templedi yn dilyn ymchwil i gynllun peilot arwyddion llwyddiannus a gynhaliwyd gan Resource London.

Mae’r arwyddion newydd yn darparu enghreifftiau o’r hyn y dylid ac na ddylid ei roi yn y gwahanol ffrydiau gwastraff e.e. y bagiau ailgylchu clir, gwastraff bwyd, gwydr, a’r bagiau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Crëwyd stensiliau llawr hefyd i nodi'r gwahanol adrannau lle cedwir pob bin i'w gwneud yn haws nodi lle mae angen rhoi gwastraff.

Cyflwynir y prosiect yn rhan o Caru Ceredigion lle gall pawb wneud eu rhan i gael dylanwad cadarnhaol ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw, eu cymunedau a'r amgylchedd.

Gellir defnyddio’r templedi hyn fel adnodd ar gyfer cyfleusterau storio gwastraff busnesau neu drigolion, ac maent ar gael i’w lawrlwytho o adran Caru Ceredigion ar wefan y Cyngor.

Gwirfoddolodd MS Properties, rheolwyr eiddo wedi’u lleoli yn Aberystwyth, i gymryd rhan yn y cynllun peilot yn un o'u cyfleusterau storio biniau lle bu problemau rheolaidd o ran halogi.

Ar ôl gweld gwelliannau yn y cyfleuster y defnyddiwyd yr arwyddion newydd gyntaf, mae MS Properties wedi mabwysiadu’r arwyddion hyn mewn ardaloedd storio biniau ar gyfer eiddo eraill y maent yn eu rheoli ac maent wedi parhau i weld gwelliannau ym mhob safle.

Dywedodd Josh Ballard-Williams, Cyfarwyddwr MS Properties: “Mae cyfleusterau storio biniau wedi bod yn ben tost cyson yn y gorffennol, ac mae angen eu rheoli’n wythnosol ac yn ddyddiol mewn rhai achosion. Ers gweithio gyda’r Cyngor ar y cynllun peilot arwyddion rydym wedi gweld gwelliant mawr. Mae’r arwyddion yn glir iawn, ac mae’r meddianwyr bellach yn defnyddio’r biniau cywir ar gyfer eu gwastraff, ac oherwydd hyn rydym wedi gweld cynnydd mewn ailgylchu. Ar ôl llwyddiant yn y cyfleuster mawr hwn, mabwysiadwyd yr arwyddion i'w defnyddio mewn cyfleuster llai yng nghanol y dref. Mae hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus. Rydym yn gweld llai o wastraff yn cael ei halogi, a chynnydd mewn ailgylchu poteli gwydr, gwastraff bwyd ac ailgylchu cyffredinol hefyd. Byddwn yn cyflwyno hyn mewn cyfleusterau storio biniau eraill yn y flwyddyn newydd.”

Mae ymchwil yn dangos bod ailgylchu effeithiol yn cael ei gyflawni pan fydd gan breswylwyr y wybodaeth gywir, pan fyddant yn credu ei fod yn ddigon hawdd, a phan fyddant yn cael eu cymell gan brofiadau cadarnhaol.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid: “Hyd yn oed os oes gennym y bwriadau gorau, peth da yw i ni i gyd gael ein hatgoffa o’r hyn y gellir ei roi ac na ellir ei roi yn y bag ailgylchu clir neu’r cynhwysydd gwastraff bwyd ac ym mha fin i roi’r gwastraff cywir ynddo. Mae'r arwyddion a'r stensiliau clir a gweladwy hyn yn ategu ein gwybodaeth bresennol am gasglu gwastraff ac yn rhoi cyngor clir i denantiaid; gan helpu i leihau halogiad posibl a chynyddu ailgylchu.”

"Hoffem weld yr arwyddion hyn yn cael eu defnyddio ar draws cyfleusterau storio biniau ledled y sir; po fwyaf cyson a gweladwy yw'r neges, yr hawsaf yw ailgylchu'n llwyddiannus."

Cyflwynir y prosiect yn rhan o Caru Ceredigion lle gall pawb wneud eu rhan i gael dylanwad cadarnhaol ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw, eu cymunedau a'r amgylchedd.

Hoffai’r Tîm Gwasanaethau Gwastraff glywed gan unrhyw un sy’n dymuno defnyddio’r templedi newydd. I gysylltu, anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk gyda’r teitl ‘Cynllun Peilot Arwyddion Cyfleusterau Storio Biniau’ neu ffoniwch 01545 570881.

15/12/2020