Bydd y ffi statudol ar gyfer tystysgrifau wrth gofrestru marwolaeth plant yn cael eu hawlildio yng Ngheredigion ar sail tosturi. Mae hawlildio’r ffi yn dilyn penderfyniad a wnaed gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 23 Ionawr 2018.

Penderfynwyd y bydd y ffi yn cael ei hawlildio i bobl yn cofrestru marw-enedigaethau (still-birth), marwolaeth plentyn hyd at 18 oed a chofrestru genedigaeth a marwolaeth baban ar yr un pryd (pan ganed y baban yn fyw ond marw cyn cofrestru’r enedigaeth).

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Ray Quant MBE, “Mae cofrestru marwolaeth plentyn wastad yn brofiad torcalonnus, ac mae rhaid talu hyd yn oed swm bach yn faich ychwanegol diangen. Mae’n hollol gyfiawn bod y Cyngor yn hawlildio’r ffi.”

Mae’r penderfyniad yn dilyn penderfyniad Cabinet arall a wnaed ym mis Medi 2017 yn rhoi ei holl gefnogaeth i gynnig
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ddileu ffioedd ar gyfer claddiadau plant.

26/01/2018