Mae cymorth ariannol ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden, twristiaeth, gweithwyr llawrydd yn y sector greadigol a’r gadwyn gyflenwi yng Ngheredigion yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf.
Mae’r Cronfa Argyfwng Busnes wedi agor heddiw (20 Ionawr 2022) ac yn rhan o becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn symud i Lefel Rhybudd 2 ym mis Rhagfyr 2021.
Anogir busnesau yng Ngheredigion i wirio eu cymhwysedd a gwneud cais ar-lein: Cronfa Argyfwng Cymorth i Fusnesau
Mae’r grantiau busnes canlynol ar gael:
- Grant Ardrethi Annomestig (NDR)
Mae gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol
- Cronfa Argyfwng Busnes
Bydd y grant yma yn darparu cefnogaeth i fusnesau yn y sector manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, gweithwyr llawrydd yn y sector greadigol, ynghyd â busnesau cadwyn gyflenwi gysylltiedig sydd ddim ac eiddo a dim yn gymwys i geisio am y grant Ardrethi Annomestig (NDR) Bydd gan fusnesau hawl i daliad o £1000, nad ydynt yn cyflogi unrhyw un ar wahân i’r perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo NEU daliad o £2,000 sy'n cyflogi staff drwy PAYE (yn ychwanegol i’r perchennog).
- Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF)Llywodraeth Cymru
Y drydedd elfen yw ailagor Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru. Ar ben grantiau sy'n seiliedig ar Ardrethi Cenedlaethol, bydd y gronfa hon yn gweld grantiau o hyd at £25,000 ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol – a'u cadwyni cyflenwi. Fel gyda chylchoedd ERF blaenorol, bydd hyn yn cefnogi busnesau sydd wedi gweld gostyngiad o fwy na 60% yn eu trosiant.
Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen gais i fusnesau ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Cronfa Argyfwng Cymorth i Fusnesau
Bydd y Grant Ardrethi Annomestig a’r Gronfa Argyfwng Busnes yn cau ar 14 Chwefror 2022.
20/01/2022