Erbyn hyn, bydd pecynnau gwybodaeth ynglŷn â’r Cyfrifiad, gan gynnwys llythyrau a chodau mynediad, wedi dechrau cyrraedd cartrefi ledled Ceredigion.

Arolwg unigryw o'r holl bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr yw’r Cyfrifiad, sy’n digwydd unwaith bob 10 mlynedd ac sy’n cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'n bwysig i bawb yng Ngheredigion lenwi eu holiadur Cyfrifiad gan ei fod yn rhoi'r wybodaeth fanylaf sydd gennym am ein cymdeithas.

Mae'n ofynnol i bawb lenwi eu Cyfrifiad yn ôl y gyfraith. Gallwch ei gwblhau ar-lein neu ar bapur ac mae cymorth ar gael i'r rheini sydd angen cymorth neu gyngor ar sut i lenwi eu Cyfrifiad. 

Gall preswylwyr ymweld â gwefan Cyfrifiad 2021. Mae'r wefan yn cynnwys adran help ar-lein, sy'n cwmpasu popeth o bwy i'w gynnwys ar yr holiadur, i sut i ateb pob cwestiwn. Mae Canolfan Gyswllt bwrpasol a Chanolfan Gymorth hefyd ar gael i breswylwyr gysylltu â nhw i gael cymorth pellach.

Y Ganolfan Gyswllt

Mae Canolfan Gyswllt y Cyfrifiad yn ffynhonnell hanfodol o gymorth i’r cyhoedd. Mae'n cynnig cymorth dros y ffôn, drwy sgwrs ar y We a neges destun SMS, a thrwy'r ffurflen 'Cysylltu â Ni' ar wefan Cyfrifiad 2021. 

Gall y Ganolfan Gyswllt helpu gyda llawer o dasgau, gan gynnwys: datrys ymholiadau cyffredinol ac arbenigol gan y cyhoedd; darparu holiaduron newydd neu ychwanegol; darparu llyfrynnau cyfieithu, llyfrynnau canllaw braille a thaflenni hawdd eu darllen; gwasanaethau cyfieithu ar y pryd; cynorthwyo unigolion i gwblhau'r Cyfrifiad dros y ffôn.

Mae llinell gymorth gyffredinol, ynghyd â llinell gymorth iaith, rhifau testun byr a Text Relay:

  • Llinell gymorth y Ganolfan Gyswllt ar gyfer y rheini sy'n byw yng Nghymru: 0800 169 2021
  • NGT Cymru (y gwasanaeth text relay): (18001) 0800 169 2021        
  • Y llinell gymorth iaith: 0800 587 2021          

Bydd Canolfan Gyswllt y Cyfrifiad ar agor rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener; rhwng 8am a 1pm ddydd Sadwrn, ond bydd ar gau ddydd Sul. Fodd bynnag, bydd y Ganolfan ar agor dros Benwythnos y Cyfrifiad (20-21 Mawrth) rhwng 8am ac 8pm. Mae Canolfan Gyswllt y Cyfrifiad wedi'i lleoli yn y DU a gellir ei ffonio’n rhad ac am ddim.

Canolfan Gymorth Leol y Cyfrifiad

Bydd Canolfan Gymorth Leol y Cyfrifiad, sydd wedi'i lleoli yn Llyfrgell Tref Aberystwyth, yn helpu gydag ymholiadau cyffredinol ynglŷn â’r Cyfrifiad, yn helpu trigolion i lenwi eu Cyfrifiad ar-lein neu eu ffurflen bapur, a gallant drafod dulliau eraill o roi cymorth.

Ar hyn o bryd, mae Canolfan Gymorth y Cyfrifiad yn gweithredu fel gwasanaeth o bell, a dim ond dros y ffôn y gall ddarparu cymorth. Ni fydd holl Ganolfannau Cymorth y Cyfrifiad ledled Cymru a Lloegr yn gallu darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod clo.

Dyma fanylion cyswllt Canolfan Gymorth y Cyfrifiad:

Bydd Canolfan Gymorth y Cyfrifiad ar agor rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond ni fydd yn gweithredu ar benwythnosau. Codir tâl am alwadau ffôn ar y gyfradd safonol.

I gael rhagor o fanylion am eich Canolfan Gymorth agosaf ewch i wefan y Cyfrifiad: Dod o hyd i Ganolfan Gymorth.

Rheolwr Ymgysylltu’r Cyfrifiad

Huw Davies yw Rheolwr Ymgysylltu’r Cyfrifiad (CEM) yng Ngheredigion. Bydd y CEM yn cynnal digwyddiadau cwblhau’r ffurflen dros y ffôn ar adegau penodol dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys 15 ac 16 Mawrth 2021, i gefnogi preswylwyr i gwblhau eu Cyfrifiad. I gael rhagor o wybodaeth am amser a dyddiadau'r digwyddiadau hyn, ewch i'w gyfrif Twitter: @CensusCerePow 

Diwrnod y Cyfrifiad – 21 Mawrth 2021

Cofiwch fod data'r Cyfrifiad yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Ngheredigion. P'un a yw hynny’n golygu cynllunio ysgolion newydd, meddygfeydd neu lonydd beicio, mae'r wybodaeth a rannwch yn effeithio ar fywydau pawb sy'n byw yng Nghymru a Lloegr. 

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau cymorth sydd ar gael ar wefan y Cyfrifiad.

Mae gwybodaeth am y Cyfrifiad yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

10/03/2021