Arolwg yw’r cyfrifiad a gaiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u hariannu yn eich ardal leol. Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, tai neu lwybrau bysiau newydd.

Mae'n gofyn cwestiynau amdanoch chi a'ch cartref er mwyn creu darlun o bob un ohonom ni. Mae'n edrych ar bwy ydym ni a sut rydym ni'n byw. Nid oes unrhyw arolwg arall sy'n rhoi cymaint o wybodaeth am ein cymdeithas ac anghenion yn y dyfodol.

Diwrnod y Cyfrifiad fydd 21 Mawrth. Fodd bynnag, bydd cartrefi yn cael llythyr yn y post ddechrau mis Mawrth a fydd yn cynnwys manylion am sut i gymryd rhan yn yr arolwg gorfodol. Byddant naill ai yn cael arolwg papur i’w gwblhau neu gôd mynediad unigryw, a fydd yn eu gwahodd i lenwi’r arolwg ar-lein. Er hyn, bydd holiaduron papur ar gael ar gais o Ganolfan Gyswllt y Cyfrifiad.

Mae'r cyfrifiad yn ein helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen ar ein cymdeithas nawr, a'r hyn mae'n debygol y bydd ei angen arni yn y dyfodol. Mae'r wybodaeth a gaiff ei chasglu ganddo yn helpu gyda phenderfyniadau ynglŷn â chynllunio ac ariannu gwasanaethau yn eich ardal. Gallai hyn gynnwys ysgolion, meddygfeydd, gwasanaethau brys neu hyd yn oed grwpiau cymorth lleol.

Mae elusennau hefyd yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad er mwyn helpu i gael y cyllid sydd ei angen arnynt. Mae busnesau'n ei defnyddio i benderfynu ble i leoli eu hunain, sy'n creu cyfleoedd gwaith.

Dylai gymryd tua 10 munud fesul unigolyn i gwblhau'r cyfrifiad. Mae'n hawdd i'w wneud a gellir ei wneud ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn symudol.

Mae llyfrynnau cyfieithu ar gael i'w lawrlwytho. Os nad yw eich iaith wedi'i chynrychioli, ffoniwch y ganolfan gyswllt cwsmeriaid ar 0800 169 2021.

Mae'r tudalennau help ar cyfrifiad.gov.uk yn esbonio sut y gallwch chi gael help. Mae'r rhain yn cynnwys canllawiau cyffredinol, help gydag iaith ac amrywiaeth eang o fformatau hygyrch, gan gynnwys canllawiau fideo a sain (Cymraeg a Saesneg). Gallwch chi hefyd ffonio'r ganolfan gyswllt ar 0800 169 2021 neu ymweld ag un o'n canolfannau cymorth sy'n cynnig help.

Prif flaenoriaeth yr ONS yw sicrhau diogelwch eich gwybodaeth. Ni all neb eich adnabod yn ystadegau’r cyfrifiad y byddwn yn eu cyhoeddi. Mae’r ONS yn sicrhau nad yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch. Bydd eich cofnod cyfrifiad yn cael ei gadw’n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedi hynny y gall cenedlaethau’r dyfodol ei weld.

Ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, ar ddiwedd mis Mawrth a dechrau mis Ebrill, bydd Swyddogion Maes y Cyfrifiad yn ymweld â chartrefi nad ydynt wedi llenwi ffurflen y Cyfrifiad yng Ngheredigion. Byddant yn annog pobl i lenwi’r Cyfrifiad ac yn eich helpu i fanteisio ar gymorth pellach os bydd angen. Bydd y Swyddogion Maes yn gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol ac yn gweithio’n unol â chanllawiau’r llywodraeth. Ni fydd angen iddynt, ar unrhyw gyfrif, fynd i mewn i’ch cartref. Byddant yn gweithredu yn yr un modd ag ymweliadau dosbarthu bwyd neu bost.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r Cyfrifiad yn ôl y gyfraith. Os na fyddwch yn gwneud hynny, neu os byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug, gallech gael dirwy o hyd at £1,000. Mae rhai cwestiynau wedi cael eu labeli’n glir fel rhai gwirfoddol. Nid yw’n drosedd os na fyddwch yn ateb y rhain.

Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cyfrifiad, ewch i wefan y Cyfrifiad: cyfrifiad.gov.uk.

Bydd Canolfan Gyswllt y Cyfrifiad, sy’n rhad ac am ddim ac a ddarperir gan yr ONS, yn agor ar 1 Mawrth. O’r fan honno, gallwch gysylltu â’r ONS dros y ffôn, gwe-sgwrs, e-bost neu negeseuon testun. Bydd rhif ffôn Canolfan Gyswllt y Cyfrifiad ar gael ar wefan ONS yn fuan: www.cyfrifiad.gov.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Twitter

Facebook

Instagram

LinkedIn

Ffeithiau am y cyfrifiad

Ar adeg y cyfrifiad diwethaf...

  • Roedd 75,922 o bobl yn byw yng Ngheredigion, gan gynnwys 11,318 o fyfyrwyr
  • Roedd 2,063 o ffermwyr, y swydd fwyaf cyffredin
  • Roedd 11 o bobl yn adeiladwyr ac yn atgyweiriwyr cychod a llongau
  • Roedd 676 o nyrsys
  • Roedd 72 o bobl yn wneuthurwyr dodrefn ac yn seiri coed crefftau eraill
  • Roedd bron 18,000 ohonoch chi'n defnyddio car neu fan i yrru i'r gwaith, ac roedd dros 7,000 ohonoch chi (dros un rhan o bump) yn gweithio gartref
  • Roedd 164 o gefndiroedd ethnig gwahanol yng Ngheredigion
  • Heblaw am y Deyrnas Unedig, Gwlad Pwyl oedd y brif wlad enedigol, a Phwyleg oedd yr iaith fwyaf poblogaidd heblaw am y Gymraeg neu'r Saesneg, ac roedd 663 ohonoch chi'n ei siarad
  • Roedd 94 o gartrefi ag 8 person neu fwy
  • Dywedodd 349 o bobl eu bod yn Farchogion Jedi