Mewn cyfarfod ar 08 Mai 2018, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gymerdwyo Polisi Metel Sgrap newydd. Mae’r polisi’n sicrhau hygyrchedd ac eglurder i’r rhai sy’n ceisio cael Casglwyr neu Drwydded Safle gan y Cyngor.

Prif bryder y Cyngor ynglŷn â metel sgrap yw casglwyr sy'n aml yn ymweld â chymunedau anghysbell sy'n targedu ffermwyr, busnesau gwledig bach ac adeiladau hanesyddol, gan gynnwys eglwysi. Mae cofrestr o werthwyr metel sgrap cyfreithlon yng Nghymru i'w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Ffordd o Fyw, “Mae'n bwysig bod gan y Cyngor ffordd gyson tuag at reoleiddio metel sgrap. Mae angen cefnogi gwerthwyr metel sgrap sy'n gyfreithlon ac yn dilyn y gyfraith wrth i ni wneud popeth a allwn i leihau lladradau metel sgrap.”

Mae cymeradwyo'r polisi yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor i ddiogelu amgylcheddol a gwytnwch cymunedol.

08/05/2018