Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ddatganiad blynyddol Polisi Atal Caethwasiaeth yn eu cyfarfod ar 28 Ionawr, 2020.

Mae'r datganiad yn nodi'r camau a gymerwyd dros y flwyddyn ddiwethaf i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl ac i hyrwyddo cyflogaeth foesegol a thryloywder yn ein cadwyni cyflenwi. Maent hefyd yn nodi pa gamau mae’r Cyngor yn gweithio tuag at dros y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor ac Eiriolwr ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: “Ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn goddef caethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn ein sefydliad nac yn ein cadwyni cyflenwi. Byddwn yn parhau i daclo a rhwystro trosedd sy’n targedu rhai o’r aelodau mwyaf bregus yn ein cymdeithas.”

Mabwysiadodd y Cyngor y Polisi Atal Caethwasiaeth cyntaf ym mis Rhagfyr 2017, ac yn dilyn hynny, penodwyd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE yn Eiriolwr Caethwasiaeth Fodern. Dywedodd: “Mae’r Datganiad Blynyddol a’r Cynllun Gweithredu yn ei wneud yn glir iawn; bydd y Cyngor yn cymryd pob cyfle i daclo Caethwasiaeth Fodern nid yn unig yn ei waith ei hun, ond hefyd yn y gadwyn cyflenwi sy’n deillio o’r Cyngor. Mae hwn yn wir broblem sy’n effeithio ar bobl mewn ardaloedd gwledig a threfol.”

Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys y symudiad, gorfodaeth a chamfanteisio o oedolion bregus a phlant. Mae’r mathau o gamfanteisio yn cynnwys camfanteisio ar weithwyr, camfanteisio’n rhywiol, camfanteisio troseddol, caethwasanaeth domestig a thynnu organau. Yn 2018, cofnodwyd 251 o ddioddefwyr posib o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru, sy'n 30% yn fwy na 2017. Plant oedd 50% o’r dioddefwyr.

Mae’r Datganiad Blynyddol i’w weld ar wefan y Cyngor yma: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/caethwasiaeth-fodern-a-chyflogaeth-foesegol/

09/03/2020