Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda Sustrans Cymru yn rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Yn y cam cychwynnol hwn, rydym yn ceisio eich adborth ar ble yr hoffech weld gwelliannau i gerdded a beicio yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Cynllun o lwybrau yw’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol, a bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch lle y dylid gwneud gwelliannau i gerdded a beicio o fewn y sir. Bydd yn helpu i wneud teithiau ar droed neu ar feic ledled Ceredigion yn haws ac yn fwy diogel i bawb, yn enwedig i’r rheini nad ydynt yn cerdded neu'n beicio'n aml ar hyn o bryd a phobl sy'n defnyddio cymhorthion symudedd.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar dair tref yng Ngheredigion a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru fel yr ardaloedd dynodedig yn y sir – Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.  

Y Cynghorydd Dafydd Edwards yw’r Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai. Dywedodd “Mae teithiau llesol yn cynnig ystod eang o fanteision gan gynnwys helpu i leihau carbon a gwella ansawdd yr aer ynghyd â gwella iechyd a lles, felly mae hwn yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion ddweud wrthym beth yr hoffent ei weld yn cael ei gynnwys yn ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn y dyfodol.”

Er mwyn dylunio rhwydwaith sy'n gweithio i bawb, hoffem gael barn cynifer o bobl â phosibl, yn enwedig y rheini nad ydynt yn cerdded neu'n beicio ar hyn o bryd.

Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod y llwybrau sy'n cael eu hadeiladu ar gyfer cerdded a beicio yn gweithio i'r gymuned gyfan.

Bydd eich adborth yn cael ei ystyried er mwyn helpu i greu rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio yn rhan o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Ceredigion.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi adborth, ewch i’r dudalen sy’n ymwneud â thudalen Teithio Llesol.

Croesawir adborth tan 04 Ionawr 2021.

26/11/2020