Mae tri arolwg wedi'u lansio i gasglu barn trigolion Ceredigion ar ddatblygu'r economi leol. Bydd yr arolygon yn helpu i ddatblygu strategaeth economaidd 15 mlynedd i gefnogi cyfleoedd i dyfu'r economi leol.

Lansiwyd yr arolygon ar 13 Rhagfyr 2019 a byddant yn rhedeg tan 31 Ionawr 2020.

Mae un arolwg wedi'i anelu at berchenogion busnes Ceredigion, ac un arall wedi ei anelu at bobl ifanc Ceredigion. Mae trydydd arolwg yn casglu barn trigolion Ceredigion nad ydynt yn perthyn i gategorïau'r ddau arolwg arall. Mae cyfle i gwblhau'r tri os ydynt yn berthnasol.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i Geredigion fod yn uchelgeisiol drwy ddatblygu gweledigaeth gref ar gyfer dyfodol ein sir. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i helpu i ddatblygu'r economi. Rydym am weithio mewn partneriaeth â busnesau a mudiadau trydydd sector i adeiladu ar gryfderau'r sir a chreu amgylchedd lle ceir cyfleoedd i bobl ddechrau eu busnesau eu hunain a lle gall ein busnesau presennol ffynnu a thyfu. Rydyn ni eisiau gwybod pa fath o gymorth sydd ei angen a sut gallwn ni helpu.”

“Rydym hefyd am glywed gan bobl ifanc yng Ngheredigion. Rydym am wybod pa gyfleoedd sydd eu hangen i wneud aros yng Ngheredigion i gael ei weld fel dewis cadarnhaol, a gwneud yn siŵr bod pobl ifanc eisiau byw yma. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod y gefnogaeth yno i bobl ifanc gael gyrfa neu i ddatblygu syniad busnes yma.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn y broses o ddatblygu strategaeth economaidd 15 mlynedd i arwain ymdrechion y cyngor i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol economi Ceredigion.

Gall preswylwyr glicio ar y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg: https://www.ceredigion.gov.uk/your-council/consultations/ceredigion-economic-strategy-2020-2035/. Mae copïau papur o'r ymgynghoriad ar gael o lyfrgelloedd yn y sir.

17/12/2019