Rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Ionawr 2020, gwnaeth Cyngor Sir Ceredigion ymgynghori â’r cyhoedd ar ddatblygu Strategaeth Economaidd newydd ar gyfer y 15 mlynedd nesaf (2020-2035).

Adroddiad Adborth


Rydym yn ymgynghori ar ddatblygu Strategaeth Economaidd newydd ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Rydym eisiau barn holl drigolion Ceredigion i helpu i arwain cyfleoedd yn y dyfodol i wneud Ceredigion yn lle gwych i fyw a gweithio.

Mae'r strategaeth hon yn rhoi cyfle cyffrous i ni fod yn uchelgeisiol wrth ddatblygu gweledigaeth ar gyfer tyfu'r economi leol. Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i anelu at holl drigolion Ceredigion gan gynnwys pobl ifanc, perchnogion busnes, entrepreneuriaid a sefydliadau sydd â diddordeb. Mae croeso i chi gwblhau pob un o'r tri arolwg os yw'n berthnasol i chi.

  • Pobl ifanc. Fel person ifanc sy'n byw yng Ngheredigion heddiw, rydyn ni am ddeall sut rydych chi'n gweld Ceredigion nawr, beth yw'r heriau a'r cyfleoedd – mae eich barn yn hanfodol i'n helpu ni i lunio'r dyfodol gyda'n gilydd.
  • Perchnogion Busnes ac Entrepreneuriaid – Fel busnes sy'n gweithredu yng Ngheredigion rydym am ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu eich busnes a chasglu eich syniadau ar sut y gallwn feithrin amgylchedd lle gall y sector preifat ffynnu a thyfu.
  • Arolwg cyffredinol – Rydym eisiau barn trigolion Ceredigion i ddeall yr economi leol yn well ac adnabod cyfleoedd a blaenoriaethau a fydd yn cefnogi ac yn tyfu'r economi yn y dyfodol.

Bydd copïau papur o'r arolygon hefyd ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol:

Aberaeron
Aberystwyth
Aberteifi
Llanbedr Pont Steffan
Llandysul
Cei Newydd

Ar ôl y broses ymgynghori, byddwn yn cynhyrchu ac yn cyhoeddi'r canlyniadau mewn adroddiad cryno ar ein gwefan. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau hyn fel rhan o'r dystiolaeth wrth ysgrifennu'r Strategaeth Economaidd.

Rhaid cwblhau'r arolwg erbyn dydd Gwener, 31 Ionawr 2020 (AR GAU).

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat gwahanol, fel print bras neu gefndir lliw, cysylltwch â Meleri Richards.

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Meleri Richards

Neuadd Cyngor Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA
01545 572066

meleri.richards@ceredigion.gov.uk