Taith Baton y Brenin yn ymweld â Cheredigion ym mis Mehefin
Bydd Taith Baton y Brenin yn cyrraedd Cymru ym mis Mehefin, ac yn ymweld â Cheredigion ddydd Gwener 26 Mehefin, gan ddod â dathliad o ysbryd cymunedol i’r prom yn Aberystwyth.
Mae’r ymweliad yn rhan o gymal ehangach y Ras Gyfnewid yng Nghymru, a fydd yn teithio drwy gymunedau ledled y wlad yn dilyn cyhoeddi ei llwybr o dde i ogledd Cymru. Mae taith y Baton yn dathlu cyfraniad unigolion a chymunedau ledled y
Gymanwlad, gyda gair Cymru, sef ‘Cymuned’, yn adlewyrchu’r teimlad cryf o undod sy’n bodoli ar draws y genedl.
Yng Ngheredigion, bydd ymweliad y Baton yn cyd-daro â ras feicio i blant a gynhelir ar y prom yn Aberystwyth yn gynharach y prynhawn hwnnw, gan greu awyrgylch bywiog a chyfeillgar i deuluoedd. Bydd y digwyddiad hefyd yn arwain at benwythnos o weithgareddau beicio yn y sir, gyda Phencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds yn dilyn yn fuan wedyn.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mi fydd hi'n benwythnos prysur o chwaraeon yng Ngheredigion ddiwedd mis Mehefin wrth i‘r Baton gyrraedd y sir ynghyd â Phencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds. Dyma gyfle gwych i ddathlu rôl bwysig chwaraeon yn ein cymunedau, a bydd taith y Baton a’r digwyddiad seiclo i blant yn creu achlysur cyffrous yma yng Ngheredigion.”
Mae Taith Baton y Brenin yn garreg filltir bwysig wrth arwain at Gemau’r Gymanwlad nesaf, gyda phob gwlad a thiriogaeth yn cyfrannu at neges ar y cyd a gaiff ei darllen gan Ei Fawrhydi’r Brenin yn y Seremoni Agoriadol.
Anogir trigolion ac ymwelwyr i ddod draw i’r prom yn Aberystwyth ar 26 Mehefin i fod yn rhan o’r achlysur arbennig hwn.
I gael mwy o wybodaeth am Daith Baton y Brenin yng Nghymru, ewch i wefan Tîm Cymru
Bydd rhagor o fanylion am y Pencampwriaethau Seiclo hefyd ar gael ar ein gwefan: Pencampwriaethau Seiclo
21/05/2026