Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Straeon hud, dirgelwch a llên gwerin yn dod yn fyw yn Amgueddfa Ceredigion

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn dathlu Dinas Llenyddiaeth UNESCO Aberystwyth Ceredigion a Blwyddyn Darllen Genedlaethol yn ystod hanner tymor yr hydref gyda dau ddigwyddiad arbennig yn archwilio mythau, hud, ysbrydion a llên gwerin Cymru.

Bydd y rhaglen yn dechrau gyda noson o adrodd straeon i blant ar 27 Hydref, cyn digwyddiad sgwrsio gyda dau awdur sy’n arbenigo mewn llên gwerin, dewiniaeth ac ysbrydion ar 30 Hydref.

Straeon Hud a Dirgelwch

Ar nos Fawrth 27 Hydref, rhwng 6yh ac 8yh, gall darllenwyr ifanc ymuno â’r awdur Claire Fayers a’r storïwr, awdur ac arlunydd lleol Peter Stevenson am daith iasol drwy fythau, chwedlau a llên gwerin Cymru. Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer plant rhwng 9 a 12 oed.

Mae Claire Fayers yw awdur Welsh Giants, Ghosts and Goblins. Cafodd ei magu yn ne-ddwyrain Cymru, lle ysbrydolodd ei llyfrgell leol gariad gydol oes at fythau a hud. Mae ei llyfrau eraill yn cynnwys Tapper Watson and the Quest for the Nemo Machine, The Accidental Pirates a Storm Hound, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Enwyd Welsh Giants, Ghosts and Goblins yn Llyfr y Flwyddyn Waterstones Cymru yn 2024, ac enillodd Wobr Dewis y Bobl yng Ngwobrau Tir na n-Og.

Mae Peter Stevenson yn storïwr, arlunydd llyfrau ac awdur lleol sy’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth am chwedlau gwerin Cymru, wedi darlunio casgliadau o straeon tylwyth teg ac wedi rhannu straeon â chynulleidfaoedd yng Nghymru a ledled y byd.

Bydd cyfle hefyd i brynu llyfrau a chael copïau wedi’u llofnodi ar ôl y digwyddiad.

Gwybodaeth am y digwyddiad

  • Beth: Straeon Hud a Dirgelwch gyda Claire Fayers a Peter Stevenson
  • Pryd: Nos Fawrth 27 Hydref, 6yh tan 8yh
  • Ble: Amgueddfa Ceredigion, Ffordd y Môr, Aberystwyth
  • Addas ar gyfer: Plant 9 i 12 oed
  • Tocynnau plant ymlaen llaw: £4.50
  • Tocynnau plant wrth y drws: £5.50
  • Oedolion: £3
  • Yn cynnwys: Diod iasol gyda thocyn plentyn

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir archebu ymlaen llaw. 

Noson yng nghwmni awduron llên gwerin Cymru

Nos Wener 30 Hydref, rhwng 6yh ac 8yh, bydd siop yr Amgueddfa yn cynnal digwyddiad sgwrsio gyda’r awdur lleol Dr Mari Ellis Dunning, awdur Witsh, a’r llên-werinydd Dr Delyth Badder, cydawdur The Folklore of Wales: Ghosts.

Mae Witsh, nofel gyntaf Dr Mari Ellis Dunning, wedi’i hysbrydoli gan hanes dewiniaeth yng Nghymru. Wedi’i gwreiddio mewn traddodiad a realaeth, mae’r nofel yn archwilio llên gwerin, ffeministiaeth ac adrodd straeon hudolus.

Mae Dr Delyth Badder yn llên-werinydd ac awdur o Gymru ac yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae ei hymchwil yn archwilio ymddangosiad ysbrydion yn llên gwerin Cymru. Yn 2024, cafodd ei hanrhydeddu gan Orsedd Cymru am ei chyfraniad at astudio llên gwerin.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r ddwy awdur gyfarfod. Bydd y noson yn archwilio themâu gan gynnwys ffeministiaeth, llên gwerin a thraddodiad, gyda darlleniadau byr o’u llyfrau a chyfle i brynu copïau wedi’u llofnodi.

Gwybodaeth am y digwyddiad

  • Beth: Noson yng nghwmni Dr Mari Ellis Dunning a Dr Delyth Badder
  • Pryd: Nos Wener 30 Hydref, 6yh tan 8yh
  • Ble: Siop Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
  • Tocynnau ymlaen llaw: £12.50
  • Tocynnau wrth y drws: £15
  • Yn cynnwys: Coctel neu goctel di-alcohol

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir archebu ymlaen llaw. Gellir prynu tocynnau drwy wefan Amgueddfa Ceredigion neu o Ganolfan Groeso Aberystwyth.

06/10/2026