Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Storm Austen: rhybudd am wyntoedd cryf

Mae rhybuddion melyn wedi’u cyhoeddi am wyntoedd cryf ddydd Gwener, 23 Hydref hyd at 9 yh, gyda rhybuddion pellach mewn grym dros y penwythnos.

Mae gan y gwyntoedd cryfion, ynghyd â chyfnodau o law trwm, y potensial i achosi aflonyddwch. Mae’r gatiau llanw ar arfordir Aberaeron wedi’u cau ar gyfer y ddwy storm a enwir, sef Storm Austen a Storm Boelo.

Anogir trigolion i:

  • gymryd gofal ychwanegol wrth deithio a gwirio’r amodau cyn cychwyn ar daith;
  • cadw draw o ardaloedd arfordirol agored yn ystod cyfnodau o wyntoedd cryf;
  • cymryd gofal arbennig o amgylch coed a strwythurau a allai gael eu heffeithio gan wyntoedd cryf;
  • cadw golwg ar y rhagolygon a’r rhybuddion tywydd diweddaraf.
Mae ein criwiau’n ymateb i nifer uchel o adroddiadau am goed sydd wedi cwympo a malurion mewn amodau heriol. Bydd digwyddiadau’n cael eu blaenoriaethu yn ôl lefel y risg a’r adnoddau sydd ar gael, gan sicrhau diogelwch ein criwiau.

Dylai trigolion barhau i gadw golwg ar rybuddion diweddaraf y Swyddfa Dywydd wrth i Storm Austen a Storm Boelo ddatblygu: Y Swyddfa Dywydd.

Bydd rhagor o wybodaeth am y sefyllfa yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, ac ar holl sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

23/10/2026