Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhannwch eich barn ar gynlluniau pont troed Plascrug

Bydd digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 14 Ionawr i archwilio opsiynau a chynigion ar gyfer Pont Teithio Lesol ym Mhlascrug, Aberystwyth, a gynigir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Bydd y digwyddiad yn agored i’r cyhoedd rhwng 10am a 7pm ar y Llawr Gwaelod yn adeilad Swyddfa'r Cyngor Canolfan Rheidol yn Aberystwyth.

Bydd swyddogion ac ymgynghorwyr sy’n gweithio ar ran Cyngor Sir Ceredigion, wrth law i gyflwyno gwahanol opsiynau arfaethedig i wella cysylltedd teithio llesol yn y lleoliad hwn. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys paneli arddangos a modelau 3D o’r opsiynau.

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs – Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol “Mae swyddogion wedi bod yn datblygu cynigion i osod strwythur pont fwy llydan a fyddai’n gwella mynediad i feicwyr, cerddwyr a’r gymuned olwynion, tra’n bodloni’r safonau dylunio cyfredol. Mae hon yn groesfan bont boblogaidd iawn, sy’n gwasanaethu fel cyswllt pwysig i nifer o ysgolion a chyfleusterau hamdden yn yr ardal hon, gan arbed defnyddwyr taith llawer hirach trwy ganol y dref. 

Mae'r rhan hon o Aberystwyth wedi datblygu'n sylweddol ers gosod strwythur gwreiddiol y bont tua 20 mlynedd yn ôl, a bydd angen i unrhyw bont newydd fod yn ehangach i ddarparu ar gyfer lefelau cynyddol o'r defnydd presennol a'r cynnydd disgwyliedig yn y dyfodol wrth i ymddygiadau teithio cymdeithasol trefol newid. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau sylweddol yn y maes hwn a achosir yn rhannol gan y datblygiad cynyddol hwn sydd wedi gwneud y cynigion hyn yn fwy heriol o safbwynt peirianneg. Bydd y cyhoedd yn gallu gweld pethau positif a negyddol pob opsiwn cyn dewis yr opsiwn i'w ddatblygu ymhellach." 

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am chwe wythnos o 14 Ionawr 2026 ymlaen.

Gellir gweld rhagor o fanylion am y cynigion a’r digwyddiad ymgynghori hwn ar wefan y Cyngor: Cynllun Pont Plascrug - Cyngor Sir Ceredigion

06/01/2026