Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pum cân newydd sbon gan ddisgyblion uwchradd y sir

I ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar 13 Chwefror eleni, bydd pum cân newydd yn cael eu lansio gan bum ysgol uwchradd yn y sir.

Daw hyn yn rhan o Brosiect Cân yr Ysgol, gan Siarter Iaith Ceredigion, sydd wedi cynnig cyfle unigryw i ddisgyblion ysgolion gydweithio â beirdd a’r cerddor adnabyddus Mei Gwynedd i gyfansoddi caneuon gwreiddiol.

Y nod oedd llunio cân i’w hysgolion unigol, ac o’r syniad cyntaf i’r nodyn olaf, y disgyblion sydd wedi bod wrth galon y greadigaeth, gan gynnwys:

  • llunio syniadau a chyd-ysgrifennu’r geiriau
  • cyfrannu at y cyfansoddi
  • ffurfio bandiau ysgol i berfformio’r caneuon yn fyw
  • cymryd rhan yn y broses recordio
  • canu eu caneuon a'u rhyddhau ar blatfformau digidol

Dywedodd Anwen Eleri Bowen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg mewn Ysgolion ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r profiadau hyn wedi bod yn amhrisiadwy, gan feithrin hyder, creadigrwydd a balchder Cymreig yn ein hysgolion. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r albwm arbennig hwn i chi. Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau gwrando ar y traciau hyn cymaint ag y mae’r criw wedi mwynhau bod yn rhan o’r daith gerddorol hon.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n werth gwrando ar y caneuon arbennig hyn nid yn unig ar ddydd Miwsig Cymru ond trwy gydol y flwyddyn. Rwy’n llawn edmygedd o ddoniau ein disgyblion yn llwyddo i gyfansoddi, cynllunio, perfformio a rhyddhau caneuon mor safonol ar y cyd â’r rhai fu’n eu cynorthwyo, ac ymfalchïwn yn eu balchder nhw at eu bro. Ewch ati i wrando ar y casgliad arbennig hwn.”

Dyma rhestr o'r caneuon gyda'r teitlau ac awduron y geiriau.

  • Mae Bro Aberteifi  ... : Geiriau Ceri Wyn Jones a chriw Cymreictod Ysgol Uwchradd Aberteifi
  • Ymlaen Penweddig: Geiriau Arwel Rocet Jones a chriw o Senedd Ysgol Gyfun Gymunedol  Penweddig
  • Mynd a Dod: Geiriau Iwan Thomas a chriw o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Gyfun Aberaeron
  • Bro Pedr yn ein calon: Geiriau Dwynwen Lloyd Llywelyn a chriw Cymreictod Ysgol Bro Pedr
  • Olion Traed: Geiriau Enfys Hatcher Davies a chriw o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol Henry Richard

Bydd y caneuon yn cael eu rhyddhau ar blatfformau digidol ddydd Gwener, 13 Chwefror. Dilynwch y ddolen hon i’w harbed cyn hynny: Cân Yr Ysgol

Cofiwch hefyd am gasgliad Cynefin ar Gân gan ddisgyblion ysgolion cynradd Ceredigion sydd ar gael ar YouTube, Spotify a phlatfformau digidol eraill. 

#
#
#
#
#
#

 

10/02/2026