Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Prosiect "Hel Atgofion" yn dathlu iaith, diwylliant a chreadigrwydd

Dros y misoedd diwethaf mae preswylwyr Cartref Preswyl yr Hafod a defnyddwyr Canolfan Meugan, Aberteifi wedi cyfrannu at brosiect cyffrous gan weithio gyda’r Prif Fardd Ceri Wyn Jones a’r artist lleol Cathryn Gwynn i greu darn o waith creadigol a gafodd ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd yn ystod mis Awst eleni.

Comisiynwyd y Prifardd Ceri Wyn Jones i ysgrifennu cerdd ar gyfer preswylwyr Yr Hafod. Cyn ysgrifennu’r gerdd, cynhaliodd weithdy gyda’r preswylwyr i gasglu eu hatgofion, eu profiadau a’u teimladau am fywyd yn y cartref.

Dywedodd Ceri Wyn Jones: “Ges i’r gwahoddiad ardderchog i ddod yma i helpu trigolion Yr Hafod i greu cerdd am y profiad o fyw yn y cartref arbennig hwn. Bues i’n sgwrsio gyda nhw am eu hatgofion cynnar ac am eu profiadau diweddar yma. Roedd pawb yn canmol y gofal, y gymuned a’r croeso y maent wedi eu derbyn, ac roeddwn i’n awyddus i gyfleu hynny yn y gerdd. Gobeithio ein bod wedi llwyddo i greu rhywbeth sy’n adlewyrchu eu profiadau yn deg."

Yn ogystal â’r gerdd, bu’r artist lleol Cathryn Gwynn yn cynnal gweithdy celf gyda phreswylwyr Yr Hafod a defnyddwyr gwasanaeth Canolfan Meugan. Ysbrydolwyd y gwaith gan y syniad o gartref a’r atgofion personol sy’n gysylltiedig â gwrthrychau a defnyddiau cyfarwydd. Dywedodd Cathryn Gwynn: "Defnyddiais amrywiaeth o ddefnyddiau a ffabrigau oherwydd bod pethau fel blancedi, llenni, lliain bwrdd a chlustogau yn rhan bwysig o’r atgofion sydd gennym am ein cartrefi. Roedd yn brosiect creadigol iawn a oedd yn galluogi pawb i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon."

Canmolodd Nerys Lewis, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaethau Uniongyrchol, Porth Gofal, Cyngor Sir Ceredigion, effaith y prosiect ar y preswylwyr: "Rydym yn ffodus iawn ein bod wedi cael y cyfle i weithio gyda CERED a Chyngor Sir Ceredigion ar y prosiect hynod bwysig hwn yn Yr Hafod. Nid yn unig mae wedi creu ymdeimlad cryfach o gymuned a chyfeillgarwch, ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni ddathlu ein hiaith, ein diwylliant a’n celfyddyd mewn ffordd mor gynhwysol. Mae pawb sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn."

Ychwanegodd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiwylliant, Hamdden a'r Gwasanaeth Cwsmeriaid: "Mae'r prosiect hwn yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall gweithgareddau creadigol eu cael ar lesiant, hyder a chysylltiadau cymdeithasol, tra hefyd yn dathlu'r Gymraeg a'n diwylliannau cyfoethog. Mae'n hyfryd clywed am y preswylwyr yn gweithio gydag artistiaid lleol ac yn cyfrannu at waith a gafodd ei arddangos mewn digwyddiad mor arwyddocaol, yr Eisteddfod.
“Wrth inni nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn heddiw, mae’r prosiect hwn yn gyfle i ddathlu’r cyfoeth o atgofion, profiadau a chreadigrwydd gall y to hŷn eu rhannu gyda ni.”

Mae’r prosiect hwn yn waith partneriaethol rhwng CERED Menter Iaith Ceredigion a Swyddog Polisi Iaith Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r prosiect wedi cynnwys sesiynau canu, gweithgareddau creadigol, cwisiau, chwarae BOCCIA ac ymweliadau rhyng-genhedlaeth gyda disgyblion ysgolion lleol.

Mae’r cynllun bellach yn gweithredu mewn cartrefi gofal ledled Ceredigion, gan gynnwys Aberystwyth, Tregaron, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi, ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth wrth hyrwyddo defnydd dyddiol o’r Gymraeg a chyfoethogi llesiant preswylwyr.

01/10/2026