Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Nifer cynyddol o gartrefi LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mae gofalwyr maeth LHDTC+ yn gyfran llawer mwy o’r gofalwyr yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd.

Mae yna 56 o gartrefi LHDTC+ yng Nghymru, cynnydd o 30% o'i gymharu â 2024. Yng Ngheredigion, roedd gofalwyr maeth LHDTC+ yn gofalu am saith o blant yn 2025.

Yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ hon, sy'n dechrau ar 02 Mawrth, mae Maethu Cymru Ceredigion yn annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth a newid bywydau yn 2026.

Yng Ngheredigion, ar hyn o bryd mae 138 o blant mewn gofal maeth. Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae gan nifer o bobl LHDTC+ brofiad bywyd personol unigryw i'w gynnig i ofal plant a phobl ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Lesiant Gydol Oes: “Mae’n galonogol iawn gweld cynnydd mor sylweddol yn nifer y cartrefi maeth LHDTC+ yng Nghymru. Yma yng Ngheredigion, rydym yn hynod falch o’n gofalwyr maeth LHDTC+ sy’n darparu cartrefi cariadus, deallus a diogel i’n plant a’n pobl ifanc. Mae eu profiadau bywyd, eu cadernid a’u hagwedd agored yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd."

Ychwanegodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: “Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth eithriadol i blant a phobl ifanc bob dydd trwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu. Maent yn defnyddio eu profiadau bywyd eu hunain, eu tosturi a’u gwydnwch i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud tuag at fabwysiadu, a fydd yn darparu’r sicrwydd gydol oes yna sydd ei angen arnynt pan nad yw dychwelyd at eu teulu geni yn bosibl.

Gyda chynifer o blant angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddechrau sgwrs gyda’u tîm lleol heddiw.”

Gallwch ddilyn Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ar-lein ac ar X (@lgbtadoptfoster) a Facebook (@newfamilysocial).

Am ragor o wybodaeth am faethu ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/ / Dysgwch fwy am fabwysiadu yng Nghymru yma: https://adoptcymru.com/hafan/

Dilynwch dudalen Maethu Ceredigion yma.

Gweler mwy o wybodaeth am faethu yng Ngheredigion yma.

03/03/2026