Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Llysiau lleol yn cymryd lle blaenllaw ar fwydlenni Ysgolion Ceredigion

Mae Ceredigion yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Ers Ionawr 2025, mae pob ysgol yng Ngheredigion wedi bod yng nghymryd rhan yn y prosiect, gan weini llysiau organig wedi’u tyfu yng Nghymru fel rhan o’u cinio ysgol.

Yn 2025, mae ysgolion Ceredigion wedi gweini 2537kg o lysiau o Gastell Howell, y nifer fwyaf yng Nghymru. Yn ôl ffigyrau Castell Howell, mae cyfaint gwerthiant llysiau o Gymru Castell Howell ar gyfer ysgolion Ceredigion fel y ganlyn:

Gwerthiant llysiau 2025

Unedau

KG

Cyfanswm

Cyfanwerthwr

Ceredigion

725

2537

3262

Castell Howell

Mae Ysgol y Dderi wedi lansio podlediad ar gyfer y prosiect ble gallwch clywed o ddisgyblion a cynrychiolydd o’r prosiect. Mae disgyblion yn sôn am sut a pham wnaethon ymuno a’r prosect yma wrth siarad gyda cynrychiolydd o’r prosiect Llysiau o Gymru a Castell Howell. Gallwch gwrando ar y podlediad llawn yma: Welsh Veg Voices (Saesneg yn unig). Cyfeiriodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am y podlediad yma a'r prosiect yn ei gylchlythyr mis Rhagfyr 2025.

Meddai Heini Thomas, Pennaeth Ysgol y Dderi: “Mae plant yr ysgol wedi bod yn ymgyrchu’n frwd dros weini mwy o lysiau lleol ar fwydlen ein cinio ysgol ac mae’n destun balchder mawr fod Sir Ceredigion wedi gweini'r nifer fwyaf yng Nghymru eleni!  Mawr oedd y cyffro pan gawson ni foron o fferm Bwlchwernen a brocoli o Lechryd. Roedd gwybod bod y llysiau wedi eu tyfu yn lleol wedi cael effaith gadarnhaol ar arferion bwyta’r plant a doedd bron dim gwastraff!  Mae’r plant yn deall bod yr economi leol, iechyd personol a’r amgylchedd yn elwa’n ddirfawr wrth wneud y dewis syml o fwyta llysiau lleol.”

Dywedodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n wych gweld ysgolion Ceredigion ar flaen y gad wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy i’n plant. Mae prosiect Llysiau o Gymru nid yn unig yn cefnogi ffermwyr lleol, ond hefyd yn dysgu ein pobl ifanc am werth cynnyrch organig a’r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Mae llwyddiant ysgolion y sir – gyda’r cyfaint uchaf o lysiau a weini yng Nghymru – yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i iechyd a lles ein cymunedau.”

07/01/2026