JDS Machinery Rali Ceredigion 2026: Tri diwrnod o foduro o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Ganolbarth Cymru
Bydd JDS Machinery Rali Ceredigion yn dychwelyd rhwng 4–6 Medi 2026 fel rhan o Bencampwriaeth Rali Ewrop yr FIA a Phencampwriaeth Rali Prydain.
Mae’r digwyddiad, sydd bellach wedi’i sefydlu’n gadarn fel uchafbwynt ar galendr moduro’r DU, yn parhau i arddangos tirweddau, cymunedau a busnesau’r rhanbarth ar lwyfan rhyngwladol — gan ddenu degau o filoedd o ymwelwyr a darparu buddion economaidd sylweddol.
Gan adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol, bydd digwyddiad 2026 yn cynnwys rhaglen estynedig, gan gynnwys sioe rali a dechrau seremonïol ar bromenâd Aberystwyth nos Iau, wedi’i ddilyn gan gymalau cystadleuol ar draws Ceredigion a Phowys drwy gydol y penwythnos.
Eleni, bydd y digwyddiad hefyd yn rhan o Bencampwriaeth Rali Hanesyddol Ewrop, gan ddod ag ystod ehangach o geir rali eiconig, hanesyddol i’r rhanbarth ac ychwanegu dimensiwn cyffrous arall i wylwyr.
Cynhyrchodd digwyddiad y llynedd effaith gadarnhaol o £11.6 miliwn, gan gynnwys effaith economaidd uniongyrchol amcangyfrifedig o £5.59 miliwn, gyda busnesau lleol yn adrodd am gynnydd mewn ymwelwyr, arosiadau dros nos a gwariant ymwelwyr ar draws y rhanbarth. Mae’r trefnwyr yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys a’r gwasanaethau brys i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gyflwyno’n ddiogel ac yn llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch o groesawu Rali Ceredigion yn ôl i’r sir ar gyfer 2026. Mae’r digwyddiad yn parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddod â buddion sylweddol i’n cymunedau, busnesau lleol a’r economi ehangach.
“Gyda rhaglen estynedig a chynnwys Pencampwriaeth Rali Hanesyddol Ewrop, mae digwyddiad eleni’n addo denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i’r rhanbarth. Fel Cyngor, ein ffocws yw gweithio’n agos gyda threfnwyr a phartneriaid i sicrhau bod trigolion yn cael eu hysbysu’n dda a bod y digwyddiad yn cael ei gyflwyno’n ddiogel ac yn llwyddiannus i bawb.”
Anogir trigolion a busnesau i gynllunio ymlaen llaw, a bydd manylion pellach am y llwybr, amserlenni a chau ffyrdd i’w rhannu yn y misoedd nesaf. Bydd gweithgaredd ymgysylltu cynnar yn dechrau cyn yr haf, gan gynnwys diweddariadau cymunedol a chyfleoedd i fusnesau lleol gymryd rhan.
Dywedodd Charlie Jukes, Cyfarwyddwr y Digwyddiad ar gyfer Rali Ceredigion: “Rydym yn gyffrous i adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol ac i ddod â digwyddiad estynedig i Geredigion a Phowys yn 2026. Mae cynnwys Pencampwriaeth Rali Hanesyddol Ewrop yn ddatblygiad gwych, gan ychwanegu hyd yn oed mwy o amrywiaeth ac apêl i gefnogwyr, gyda disgwyl i ystod ehangach o geir rali eiconig gymryd rhan.
“Mae Rali Ceredigion yn parhau i dyfu o ran maint ac enw da, ac rydym yn falch o weithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, partneriaid a chymunedau i gyflwyno digwyddiad sy’n arddangos y gorau o’r rhanbarth ac yn creu effaith gadarnhaol sylweddol.”
Bydd gwybodaeth bellach gan y Cyngor, gan gynnwys manylion y llwybr, yn cael ei chyhoeddi maes o law i helpu trigolion ac ymwelwyr i baratoi ar gyfer y digwyddiad. Ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/twristiaeth-a-hamdden/jds-machinery-rali-ceredigion-2026/
Am ddiweddariadau’r rali, ewch i www.raliceredigion.co.uk neu dilynwch Rali Ceredigion a Chyngor Sir Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol.
20/05/2026