Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn lansio ymgynghoriad ar strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol ar gyfer pobl ifanc

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gwahodd pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, grwpiau cymunedol, partneriaid a thrigolion i helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid ledled y sir drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft 2027–2032.

Datblygwyd y strategaeth yn dilyn ymgysylltu helaeth â mwy na 500 o bobl ifanc, ochr yn ochr ag ysgolion, gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid o bob cwr o Geredigion. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwaith ieuenctid dros y pum mlynedd nesaf ac yn ymateb i ddisgwyliadau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio a chyflwyno gwaith ieuenctid.

Mae'r strategaeth ddrafft yn amlinellu chwe blaenoriaeth allweddol:

  • Mynediad at Waith Ieuenctid o Ansawdd Uchel
  • Cymunedau Gwledig Ffyniannus
  • Lles, Perthyn a Pherthnasoedd Dibynadwy
  • Llais, Cyfranogiad ac Arweinyddiaeth Ieuenctid
  • Rhwydwaith Gweithlu a Gwirfoddolwyr Medrus, Cynaliadwy a Dwyieithog
  • Partneriaethau, Cymunedau a Gweithredu ar y Cyd

Nod y strategaeth yw sicrhau y gall pob person ifanc 11–25 oed gael mynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid o ansawdd uchel sy'n eu helpu i feithrin hyder, datblygu sgiliau, gwella lles a chyflawni eu potensial.

Fel rhan o'r ymgynghoriad, cynhyrchwyd fersiwn o'r strategaeth sy'n gyfeillgar i bobl ifanc hefyd, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ifanc ddeall y cynigion a rhannu eu barn.

Dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: "Mae'r strategaeth hon wedi'i llunio gan leisiau pobl ifanc ac mae'n adlewyrchu'r hyn a ddywedasant wrthym sydd bwysicaf: perthnasoedd dibynadwy, mannau diogel, mwy o gyfleoedd, cymunedau cryfach a llais gwirioneddol mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles, cyfranogiad, atal a datblygiad personol. Rydym am sicrhau bod pobl ifanc, cymunedau a phartneriaid yn parhau i helpu i lunio dyfodol gwaith ieuenctid yng Ngheredigion, a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad."

Tynnodd pobl ifanc a gyfrannodd at y strategaeth sylw at ystod o flaenoriaethau, gan gynnwys gwella mynediad at gyfleoedd, cynyddu darpariaeth ieuenctid mewn cymunedau gwledig, cefnogi lles, cryfhau llais ieuenctid a sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Dyfan Hunt, Aelod o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Mae’r cynllun hwn yn syniad gwych, ac mae’n dda gweld bod y gwasanaeth ieuenctid wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl ifanc yn eu cymunedau lleol wedi’i ddweud. Rwyf wedi bod yn aelod o’r gwasanaeth ieuenctid ers nifer o flynyddoedd, ac rwy’n gwybod pa mor fuddiol yw bod yn rhan ohono i bobl ifanc. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa fanteision y bydd y cynllun hwn yn eu cynnig i bobl ifanc eraill.”

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod y Cabinet dros Oedran a Llesiant: "Mae gwaith ieuenctid yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ifanc ledled Ceredigion. Mae'n helpu pobl ifanc i deimlo'n gysylltiedig, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu gwerthfawrogi, gan greu cyfleoedd iddynt ddysgu, datblygu a chyfrannu at eu cymunedau. Mae'r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol ac yn dangos ein hymrwymiad i weithio ochr yn ochr â phobl ifanc a phartneriaid i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion lleol."

Mae'r ymgynghoriad ar agor a bydd yn parhau tan 30 Medi 2026. Bydd yr adborth a dderbynnir yn helpu i lywio'r strategaeth derfynol cyn iddi gael ei chyflwyno i Bwyllgor Craffu Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddarach eleni.

Mae'r dogfennau ymgynghori, gan gynnwys y fersiwn sy'n addas i bobl ifanc, ar gael ar wefan y Cyngor.

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i: Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid drafft - Cyngor Sir Ceredigion

Cofiwch ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service ar Facebook ac Instagram a @CeredigionIfanc ar TikTok.

06/08/2026