Gwasanaeth bws newydd ar ddydd Sadwrn rhwng Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan
Bydd trigolion ac ymwelwyr sy’n teithio rhwng Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth yn elwa ar wasanaeth bws newydd ar ddydd Sadwrn, gan sicrhau bod cymunedau ar hyd llwybr 585 yn parhau i fod wedi’u cysylltu ar benwythnosau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi comisiynu’r gwasanaeth er mwyn sicrhau cysylltedd parhaus yn dilyn diffyg diddordeb masnachol gan weithredwyr bysiau i redeg gwasanaeth ar ddydd Sadwrn ar y llwybr.
Gan weithio’n agos gyda darparwyr trafnidiaeth lleol, mae’r Cyngor wedi datblygu ateb ymarferol a chynaliadwy gan ddefnyddio bws mini er mwyn cynnal cysylltiadau rhwng cymunedau a darparu mynediad at gyrchfannau allweddol gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan, Tregaron ac Aberystwyth.
Bydd y gwasanaeth yn helpu trigolion i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, siopa, gofal iechyd a hamdden, tra hefyd yn cefnogi’r rhai sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i deithio ledled y sir.
Mae cyflwyno’r gwasanaeth yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gynnal cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol a chefnogi cymunedau gwledig, er gwaethaf yr heriau parhaus sy’n wynebu’r rhwydwaith bysiau ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i gael mynediad at waith, addysg, gwasanaethau a chyfleoedd cymdeithasol. Rydym yn falch o gyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn ar ddydd Sadwrn, gan sicrhau bod cymunedau ar hyd llwybr 585 yn parhau i fod wedi’u cysylltu ac yn gallu cyrraedd cyrchfannau allweddol ledled y sir. Mae hwn yn enghraifft gadarnhaol o sut mae’r Cyngor yn gweithio’n greadigol gyda darparwyr lleol i ddiogelu cysylltiadau trafnidiaeth pwysig ar gyfer ein cymunedau gwledig.”
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr amserlen ar gael ar wefan Traveline Cymru. Edrychwch o dan ‘Lewis Taxi’: Traveline Cymru
07/08/2026