Gwaith carthu wedi dechrau yn sianel harbwr Aberaeron
Mae'r gwaith o garthu sianel harbwr Aberaeron wedi dechrau.
Mae Cyngor Sir Ceredigion, sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel Awdurdod yr Harbwr ac Awdurdod Gwarchod yr Arfordir ar gyfer arfordir Ceredigion, wedi dechrau carthu deunyddiau a ddyddodwyd ym mynedfa Harbwr Aberaeron, a gafodd ei ddadleoli i raddau helaeth o Draeth y De yn ystod Stormydd Amy a Bran.
Mae'r Cyngor yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio'r deunydd a garthwyd i gryfhau'r ased amddiffyn arfordirol presennol ar hyd Traeth y De o flaen Ffordd y Traeth a gafodd ei gymryd i ffwrdd yn ystod y stormydd hynny. Bydd y deunydd a garthwyd yn cael ei osod uwchben Penllanw Cymedrig y Gorllanw (MHWS) ac o fewn ffiniau safle Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron a gwblhawyd yn ddiweddar.
Yn ystod camau cychwynnol y gwaith, bydd pentwr o graean i'w weld ar ben y traeth. Mae hyn oherwydd y ffenestr llanw gyfyngedig sydd ar gael i'r contractwr i wneud y gwaith carthu a bydd y pentwr yn cael ei ailraddio maes o law rhwng y ffenestri llanw i wneud y gwaith. Bydd y tywod a echdynnir yn cael ei osod yn gyntaf gyda'r graean drosto, gan y bydd hyn yn crynhoi'r tywod gan leihau'r cyfle iddo gael ei symud eto.
Bydd monitro lefelau'r traeth, sianel yr harbwr a symudiad y graean yn parhau ar ôl cwblhau'r gwaith hwn, tra bod y traeth yn parhau i setlo dros amser.
04/02/2026