Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gorchymyn siop tecawê Indiaidd i dalu £2,808 ar ôl torri’r rheolau ar alergenau a gwybodaeth am fwyd

Mae tecawê Indiaidd wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £2,808 ar ôl i ymchwiliad gan Gyngor Sir Ceredigion ddatgelu methiannau sylweddol ym mesurau’r busnes ar reoli a rhoi gwybodaeth am alergenau.

Canfuwyd yr achosion o dorri rheolau ar ôl samplu bwyd. Datgelodd hyn fod alergenau a oedd heb eu datgan yn bresennol gan beri risg y byddai cwsmeriaid yn cael adwaith alergaidd difrifol. Gwnaeth Mr Ruhul Amin Choudhury, sy'n masnachu fel Nehar Indian Takeaway, 10 Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan, ymddangos gerbron Llys Ynadon Aberystwyth ddydd Mawrth, 3 Mawrth, lle plediodd yn euog i dair trosedd yn ymwneud â thorri rheoliadau gwybodaeth am fwyd a diogelwch bwyd.

Cafodd Mr Choudhury ddirwy o £1,290 a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwyr o £518 ynghyd â £1,000 mewn costau ymchwilio a chyfreithiol a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ceredigion ‒ cyfanswm o £2,808.

Gwnaeth tîm Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor arbrawf prynu heb rybudd ar 23 Ionawr 2025 yn dilyn rhybuddion blaenorol a hysbysiad ffurfiol ynghylch gwybodaeth anghywir am alergenau. Er i’r busnes gael gwybod wrth dderbyn yr archeb fod gan aelod o'r grŵp alergedd mwstard, gwnaeth swyddogion ganfod fod y coctel corgimwch a gyflenwyd gan y tecawê yn cynnwys mwstard. Bu i ddadansoddiad mewn labordy gadarnhau presenoldeb mwstard gan wneud y bwyd yn anniogel i'w fwyta.

Yn ystod yr un ymweliad, darganfu swyddogion hefyd fod y busnes yn defnyddio olew coginio wedi'i addasu'n enetig (GM) heb ddatgan i ddefnyddwyr eu bod yn ei ddefnyddio, fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Roedd y mater hwn wedi'i godi gyda Mr Choudhury ddwywaith o'r blaen ond ni chymerwyd camau i gywiro hynny.

Canfu'r ymchwiliad ymhellach fod bwydlen y tecawê yn honni "na ddefnyddir lliwiau nac ychwanegion bwyd artiffisial". Fodd bynnag, sylwodd swyddogion ar dwb o "liw coch llachar" ar y safle yn cynnwys lliwiau artiffisial gan gynnwys E129 Allura coch, E102 Tartrazine ac E122 Carmoisine. Cadarnhaodd Mr Choudhury fod y rhain yn cael eu defnyddio mewn prydau megis cyw iâr tikka masala a reis pilau. Bu i ddadansoddiad dilynol mewn labordy gadarnhau presenoldeb lliwiau artiffisial yn y samplau bwyd. 

Yn ystod y cyfweliad, ni wnaeth Mr Choudhury gynnig amddiffyniad. Dywedodd nad oedd yn ymwybodol fod yr olew coginio wedi'i addasu'n enetig. Derbyniodd fod y fwydlen yn cynnwys honiad anghywir ynglŷn â lliwiau artiffisial a dywedodd nad oedd yn gwybod bod saws y coctel corgimwch yn cynnwys mwstard. Daeth swyddogion i'r casgliad mai cyfyng oedd ei ddealltwriaeth o reolaeth alergenau, gan godi pryderon difrifol ynghylch arferion diogelwch bwyd y safle.

Cyflwynwyd hysbysiad i fynnu bod Mr Choudhury yn rhoi'r gorau i drin yr 14 o alergenau a reoleiddir, ac yn cymryd camau i unioni’r sefyllfa ar unwaith. Caeodd ef y safle yn wirfoddol y noson honno.

Yn y llys, dywedodd cyfreithiwr yr amddiffyniad fod Mr Choudhury wedi gweithio yn y diwydiant ers blynyddoedd lawer, nad oedd ganddo euogfarnau blaenorol o gwbl, a'i fod yn "ddieithryn i'r llys". Ychwanegodd fod Mr Choudhury yn bwriadu gweithredu systemau priodol i atal anawsterau yn y dyfodol a bod ei ddiffyg dealltwriaeth a'i angen am gymorth pellach wedi cyfrannu at y troseddau.

Dywedodd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd : “Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rheoli alergenau a rhoi gwybodaeth gywir am fwyd. Mae alergenau sydd heb eu datgan yn gallu arwain at ganlyniadau sy'n peryglu bywyd a chanfuodd ein swyddogion sawl methiant pryderus yn ystod yr ymchwiliad hwn.

Gweithiodd ein tîm yn agos gyda'r busnes i sicrhau bod camau cywiro brys yn cael eu cymryd, a byddwn yn parhau i gefnogi a gorfodi lle bo angen i gadw defnyddwyr yn ddiogel."

06/03/2026