Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ffermwyr y dyfodol wrthi’n datblygu: Llettytwppa yn ymgysylltu ag ysgolion lleol

Mae myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd lleol wedi elwa o gyfres o sesiynau diddorol a gyflwynwyd yn eu hysgolion gan Reolwr Fferm Llettytwppa, Prys Lewis.

Bwriad yr ymweliadau oedd codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael yn Llettytwppa, gan gynnwys cyrsiau amaethyddol newydd sydd wedi’u cynllunio i arfogi dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y sector.

Yn ystod y sesiynau, cafodd y dysgwyr drosolwg o’r cyfleusterau, cyfleoedd hyfforddi a phrofiadau dysgu ymarferol sydd ar gael ar y safle. Cyflwynwyd iddynt agweddau allweddol ar amaethyddiaeth fodern, gan gynnwys cynaliadwyedd, rheoli da byw a sgiliau tir, gan eu helpu i ddeall llwybrau gyrfa posibl yn well.

Uchafbwynt yr ymweliadau oedd her amaethyddol ryngweithiol, lle bu dysgwyr yn gweithio mewn timau i ddatrys senarios ymarferol. Roedd y gweithgaredd yn annog gwaith tîm, datrys problemau a meddwl beirniadol, gan roi cipolwg ar heriau bywyd go iawn yn y diwydiant amaethyddol.

Dywedodd Prys Lewis: “Roedd yn bleser ymweld â’n hysgolion lleol a rhannu’r hyn a gynigiwn yn Llettytwppa. Mae’r sesiynau hyn yn ffordd wych o ymgysylltu â phobl ifanc, ehangu eu dealltwriaeth o amaethyddiaeth a’u hysbrydoli i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol.”

Mae’r fenter hon yn rhan o ymdrechion ehangach i gryfhau’r cysylltiad ag ysgolion lleol a hyrwyddo llwybrau addysg alwedigaethol. Drwy ddod â’r sesiynau’n uniongyrchol i’r ystafell ddosbarth, mae mwy o bobl ifanc yn gallu cael mynediad at wybodaeth a phrofiadau sy’n eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

Yn ôl y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae datblygu sgiliau’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a gweithwyr tir yn hanfodol i ddyfodol ein cymunedau gwledig. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Llettytwppa yn enghraifft wych o sut y gallwn ysbrydoli pobl ifanc a chynnig llwybrau clir i mewn i’r sector amaethyddol.”

Croesawyd y sesiynau gan athrawon, a nododd y gwerth o ddod ag arbenigedd diwydiant i’r ystafell ddosbarth a’r ymateb cadarnhaol gan ddysgwyr.

Mae gweithgareddau allgymorth pellach wedi’u cynllunio wrth i Llettytwppa barhau i hyrwyddo ei gyrsiau newydd a datblygu cysylltiadau cryf ag ysgolion ledled y rhanbarth.

29/06/2026