Ethol Cadeirydd newydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026-27
Mae’r Cynghorydd John Roberts wedi’i ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026-27 mewn Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener 15 Mai 2026.
Daw hyn â chyfnod y Cynghorydd Ann Bowen Morgan i ben fel y Cadeirydd ar gyfer 2025-26.
Etholwyd y Cynghorydd John Roberts i gynrychioli Ward Faenor (Waun Fawr, Comins Coch a Chapel Dewi) yn 2004, ac mae wedi byw yn ardal y Faenor am dros hanner can mlynedd.
Yn ystod ei yrfa, bu’n gweithio mewn siop ar stryd fawr Aberystwyth, cyn ymuno â’r Llu Awyr Brenhinol, lle treuliodd bum mlynedd yno gan symud i’r Alban, Malta, ac yna byw ar ynys Cyprus am ddwy flynedd a hanner. Ar ôl dychwelyd, cafodd swydd yn y Fridfa Blanhigion yng Ngogerddan, Prifysgol Aberystwyth, gan weithio ar blanhigion arbrofol i’r byd ffermio am gyfnod o 36 mlynedd.
Yn y gymuned, mae’n Gynghorydd ar Gyngor Cymuned Ward Faenor, yn aelod o Gymdeithas Cymuned Waun Fawr, Cymdeithas Cymuned Comins Coch a Chapel Dewi, Bwrdd Claddu Llanbadarn Fawr a Faenor, Llywodraethwr Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gymunedol Comins Coch, yn ogystal ag aelod o gapel Soar Llanbadarn Fawr.
Dywedodd y Cynghorydd John Roberts, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae’n fraint fawr cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2026–2027. Rwy’n falch o ymgymryd â’r rôl hon ac edrychaf ymlaen at gynrychioli’r sir mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, dathlu cyflawniadau ein cymunedau a chefnogi gwaith y Cyngor.”
Etholwyd y Cynghorydd Wyn Evans yn Is-gadeirydd.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffwn longyfarch y Cynghorydd John Roberts ar gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Wyn Evans yn Is-gadeirydd, a diolch yn ddiffuant hefyd i’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan am ei gwaith diflino fel y Cadeirydd blaenorol.”
Rôl Cadeirydd y Cyngor yw llywio prif gyfarfodydd y Cyngor Llawn, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol, a hyrwyddo amcanion y Cyngor.
15/05/2026