Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ethol aelodau newydd i arwain Cyngor Ieuenctid Ceredigion 2025-26

Ar 17 Hydref 2025, etholodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion Gadeirydd, Is-Gadeirydd ac Aelod newydd i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2025-26.

Penodwyd Freya Pritchard, disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Penglais, yn Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion a bydd yn arwain y Cyngor Ieuenctid yn 2025-26, gyda Hannah Bowhay, disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Aberaeron yn dirprwyo fel Is-Gadeirydd etholedig am 2025-26. Etholwyd Gwilym Morus, disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Aelod Seneddol Ieuenctid y DU dros Geredigion a bydd yn cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU am y flwyddyn 2025-26. Mae Kiani Francis, disgybl yn Ysgol Penglais ac aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion, yn parhau i gynrychioli Ceredigion yn ei rôl fel Aelod Seneddol Ieuenctid dros Geredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru 2024-26.
 
Mae Freya yn cymryd yr awenau oddi wrth cyn-Gadeirydd y Cyngor Ieuenctid, sef Bronwen Tuson o Ysgol Penglais, wrth iddi orffen ei thymor, gyda Lleucu Nest, Ysgol Gyfun Penweddig yn dod at ddiwedd ei chyfnod fel Aelod Seneddol Ieuenctid am 2024-25. 
 
Mae Freya, Hannah a Gwilym eisoes wedi dechrau eu gwaith yn eu rolau newydd, a gyda chefnogaeth Kiani Francis, byddant yn ymgymryd â gweithgareddau amrywiol yn lleol ac yn genedlaethol yn ystod y flwyddyn. Yn ddiweddar, fe wnaethant fynychu sesiwn holi ag ateb gydag Elin Jones AS, Llywydd Senedd Cymru yng Nghaerdydd ac wedi cyfarfod â Ben Lake AS; y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau; Lowri Edwards, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Wasanaethau Democrataidd; Greg Jones, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Borth Cymorth Cynnar; ac Elen James, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion i drafod materion a blaenoriaethau cyfredol am y flwyddyn i ddod. 
 
Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Hoffwn longyfarch Freya, Hannah a Gwilym ar eu penodiadau diweddar fel rhan o raglen Cyngor Ieuenctid Ceredigion, ac rydym yn falch bod Kiani yn parhau yn ei rôl fel Aelod Seneddol Ieuenctid Ceredigion yn rhaglen Senedd Ieuenctid Cymru. Mae cyfleoedd cyffrous o’n blaenau eleni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw. Maent eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i brosesau democrataidd o safbwynt pobl ifanc yng Ngheredigion. Dymunwn lwc dda iddynt ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hoffwn hefyd ymestyn ein diolch i Bronwen a Lleucu sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymgyrchu a hyrwyddo lleisiau pobl ifanc Ceredigion yn ystod y cyfnod yn eu swyddi llynedd. Maent wedi cael effaith hirdymor a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol, a diolch iddynt am eu holl waith caled.”
 
Dywedodd Freya Pritchard, Cadeirydd newydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gynrychioli lleisiau pobl ifanc Ceredigion yn 2025-26 fel Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Rydw i'n edrych ymlaen at geisio datrys problemau sy’n gwynebu pobl ifanc, ac rydw i'n awyddus i gyd-weithio gyda fy nghyd-aelodau o fewn y Cyngor Ieuenctid er mwyn gwella ein hardal leol, nid yn unig i'r ieuenctid ond i bawb. Rydw i'n edrych ymlaen yn arbennig i weithio tuag at dyfodol disglair i Geredigion a sicrhau bod pobl ifanc ynghlwm mewn penderfyniadau.” 
 
Ychwanegodd Lleucu Nest, cyn ASI Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU: “Mae wedi bod yn fraint cynrychioli pobl ifanc Ceredigion fel eu ASI y DU yn 2024-25. Mae fy rôl i, ynghyd â Bronwen a Kiani, wedi ymwneud yn bennaf â hyrwyddo materion sy'n bwysig i bobl ifanc ar lefel lleol a chenedlaethol, gyda llunwyr polisi allweddol a'r rhai sy'n gyfrifol am benderfyniadau pwysig. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i godi eu llais a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am waith Aelodau Seneddol a Llywodraeth y DU.”
 
Wrth groesawu’r aelodau newydd, dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau mawr i'r aelodau newydd a etholwyd. Hoffwn ddymuno'n dda iddynt ar gyfer y flwyddyn i ddod ac edrychaf ymlaen at gydweithio a chlywed eu lleisiau am faterion sy'n bwysig i bobl ifanc y Sir. Hoffwn hefyd ddiolch i’r aelodau hynny sy’n dod i ddiwedd eu tymor yn eu rolau etholedig, am y cyfraniad amhrisiadwy y maent wedi’i wneud i hawliau pobl ifanc dros y flwyddyn ddiwethaf.”

 

27/02/2026