Dedfrydu dyn am achosion ailadroddus o fethu ag atal geifr rhag crwydro
Mae dyn o Fetws Ifan wedi cael ei ddedfrydu am iddo fethu â stopio ei eifr rhag crwydro ar dir cyfagos ac ar y briffordd gyhoeddus.
Oddi ar haf 2024, bu tîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn rhoi cyngor parhaus ar lafar ac yn ysgrifenedig i Mr Christopher Wise, Llainweddfa, Betws Ifan i’w annog i drwsio’r ffensys ar ffin ei dir.
Gwelwyd ei eifr yn crwydro i mewn i erddi preifat, ar dir fferm ac ar y briffordd gan beryglu trigolion a modurwyr. Serch y cyngor hwn, ni chafodd y ffensys eu trwsio a pharhaodd hyn i ddigwydd tan fis Mawrth 2025.
Rhoddodd Mr Wise sawl rheswm am beidio trwsio’r ffensys gan gynnwys tywydd twym a honiadau bod moch daear yn cloddio o dan ffin ei dir.
Ni fu gwelliant a bu rhagor o gwynion felly dechreuodd y Cyngor achos cyfreithiol. Ar 5 Mawrth 2025 ymddangosodd Mr Wise yn Llys Ynadon Aberystwyth a phlediodd yn euog i dorri Hysbysiad Gwarchod y Gymuned o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Dyroddodd y llys Orchymyn Ymddygiad Troseddol gan roi 12 wythnos iddo atgyweirio'r ffensys.
Fodd bynnag, parhaodd y trafferthion. Ar 13 Mehefin 2025 bu i swyddogion weld geifr eto yn crwydro o’i eiddo i dir fferm cyfagos gan ddifrodi cnydau, gan gadarnhau na chydymffurfiwyd â’r Hysbysiad na'r Gorchymyn.
Cafodd Mr Wise ei alw yn ôl i'r llys ar 3 Chwefror 2026 lle plediodd yn euog eto ‒ y tro hwn i dorri'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol. Wrth ddedfrydu ar 25 Chwefror 2026 derbyniodd orchymyn cymunedol 12 mis o hyd sydd â’r nod o newid ymddygiad ac atal aildroseddu. Mae'r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i Mr Wise gwblhau 15 diwrnod o weithgarwch adsefydlu sef sesiynau strwythuredig y mae'n rhaid eu cwblhau o dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf.
Hefyd cafodd ddirwy o £80 ynghyd â gorchymyn i dalu gordal dioddefwyr o £114. Yn ogystal dyfarnwyd £300 i'r Cyngor mewn costau.
Dywedodd Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae anifeiliaid sy’n mynd ar grwydr yn gallu peri risg i fodurwyr a chymdogion. Rhoddodd ein swyddogion gyngor dro ar ôl tro a gwnaeth y llys osod gofynion clir. Os bydd hysbysiadau a gorchmynion yn cael eu hanwybyddu a bod problemau'n parhau, byddwn yn gweithredu i warchod y gymuned a chynnal y gyfraith. Mater i'r llys, wrth gwrs, yw penderfynu ar y ddedfryd”.
10/03/2026