Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dathlu doniau cerddorol Ceredigion

Roedd Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn llawn dop ddiwedd mis Rhagfyr wrth i gynulleidfa frwd ymgynnull i fwynhau cyngerdd Gwasanaeth Cerdd a Drama Ceredigion, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Rotari Ardal Aberystwyth.

Roedd y noson yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg a thalent lleol o'r safon uchaf, ac roedd yn brofiad bythgofiadwy i bawb oedd yn bresennol. Roedd yr hanner cyntaf yn wledd o berfformiadau bywiog gan fand pres y Gwasanaeth, y Gerddorfa Iau a'r Gerddorfa Hŷn, yn ogystal â'r Deuawd Telyn cyn yr ail hanner a oedd yn berfformiad o "Atgof o'r Sêr" dan arweiniad cyfansoddwr y sioe sef Robat Arwyn.

Mae sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc lleol berfformio a chydweithio â pherfformwyr proffesiynol yn un o brif amcanion y Gwasanaeth Cerdd ac roedd y noson hon yn enghraifft wych o hynny. Mae rhannu'r llwyfan gydag artistiaid o fri cenedlaethol yn brofiad prin, ysbrydoledig ac addysgiadol – profiad a all aros yn y cof am flynyddoedd lawer a gallai fod yn gam pwysig yn nhaith gyrfa ein pobl ifanc.

Cafwyd perfformiad emosiynol a phwerus o "Atgof o'r Sêr", gyda'r unawdwyr uchel eu parch, Gwawr Edwards a John Ieuan Jones, a Chôr Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, ynghyd â llu o gorau o bob cwr o'r sir, gan gynnwys Sgarmes, Côr ABC, Côr Aberteifi a Merched Soar, i greu noson gofiadwy.

Yn dilyn y perfformiad, dywedodd Robat Arwyn: "Roedd yn fraint arwain cymaint o dalent cerddorol ar y llwyfan, ac fe wnes i fwynhau pob eiliad. Dw i'n meddwl mai fi yw'r cyfansoddwr mwya lwcus y byd."

Dywedodd Megan o Ysgol Penweddig: "Roedd yn brofiad gwych bod yn rhan o gôr mor arbennig, ac yn sicr yn rhywbeth y byddwn ni fel pobl ifanc yn ei gofio am byth."

Ychwanegodd Steffan, hefyd o Ysgol Penweddig: "Mae'n wych bod y Gwasanaeth Cerdd yn rhoi'r cyfleoedd arbennig hyn i ni, a hoffwn ddiolch i'r holl diwtoriaid am y profiadau gwerthfawr hyn.”

I Catrin M S Davies, deilydd portffolio Diwyllaint Ceredigion, “roedd yn noson ardderchog ac yn gyfle i gynulleidfa eang brofi ffrwyth gwaith y Gwasanaeth Cerdd.  Mae staff a thiwtoriaid y Gwasanaeth yn gwbwl ymroddedig i roi i ieuenctid Ceredigion y cyfleoedd ehangaf posib yn y byd cerddorol a rydyn ni i gyd yn ddiolchgar iawn i bod un ohonyn nhw am eu gwaith di-flino. Roedd hi’n braf cael bod yno i brofi talentau pobol ifanc y Sir a’u gweld yn mwynhau cyd-berfformio gyda perfformwyr hŷn y Sir a’r sêr rhyngwladol Gwawr Edwards a John Ieuan Jones." 

Tanlinellodd y cyngerdd hefyd bwysigrwydd perfformio a hyrwyddo gweithiau Cymreig, gan ddiogelu a dathlu ein traddodiadau cerddorol cyfoethog.  Drwy ddod â gwahanol genedlaethau ynghyd ar yr un llwyfan, cafwyd noson a oedd nid yn unig yn dathlu'r Nadolig, ond a gryfhaodd hunaniaeth ddiwylliannol Ceredigion hefyd.

16/01/2026