Dathlu 10 Mlwyddiant Cyngor Ieuenctid Ceredigion
I nodi 10fed pen-blwydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, bu naw o bobl ifanc a phedwar aelod o staff yn ddiweddar ar ymweliad arbennig o 10 diwrnod â Phatagonia, yr Ariannin, diolch i gyllid gan Taith, rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Daeth yr ymweliad â chyn-aelodau ac aelodau presennol y Cyngor Ieuenctid ynghyd, gan roi cyfle unigryw iddynt archwilio diwylliant, hanes a threftadaeth gyfoethog y Cymry a gyrhaeddodd Batagonia ar fwrdd y Mimosa yn 1865.

Yn ystod y daith, ymwelodd y grŵp â Puerto Madryn, lle buont yn archwilio safle glanio hanesyddol y Mimosa, y llong a gludodd y Cymry cyntaf i Batagonia dros 160 mlynedd yn ôl. Teithion nhw hefyd i Drelew a Gaiman, dwy dref sy'n parhau i fod wrth galon treftadaeth Gymraeg yr Ariannin, lle sefydlodd y mewnfudwyr cynnar gymunedau llewyrchus a chadw llawer o elfennau o ddiwylliant, iaith a thraddodiadau Cymreig yn fyw.
Wrth fyfyrio ar y profiad, dywedodd Rheolwr Dros Dro Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu, Gavin Witte:
“Rhoddodd yr ymweliad ysbrydoledig hwn gyfle a all newid bywyd i bobl ifanc gysylltu â phobl, diwylliant a thirwedd Patagonia. Mae’r profiadau, y cyfeillgarwch a’r caredigrwydd a rannwyd gan y gymuned leol yn atgofion y byddant yn eu cario gyda nhw am weddill eu bywydau.”
Ychwanegodd Ela, un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymweliad:
“Mae hon wedi bod yn daith wych. Rwyf wedi dysgu bod y Gymraeg yn parhau i fod wrth galon cymunedau mewn lleoedd fel Gaiman a Threlew. Roeddwn hefyd yn ffodus iawn o gael dathlu fy mhen-blwydd tra oeddwn yma. Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion a’r staff am roi’r profiad anhygoel hwn i mi.”
Wrth i Gyngor Ieuenctid Ceredigion ddathlu degawd o rymuso pobl ifanc i leisio eu barn a gwneud gwahaniaeth, mae’r ymweliad â Phatagonia yn garreg filltir addas iawn. Mae’n anrhydeddu’r hanes a rennir rhwng Cymru a Phatagonia, ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gofleidio diwylliannau, safbwyntiau a chyfleoedd newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:
“Rwy’n hynod falch o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymweliad hwn. Trwy raglen o gyfnewid diwylliannol, dysgu ac archwilio, maent wedi ennill profiadau gwerthfawr a safbwyntiau newydd a fydd yn aros gyda nhw drwy gydol eu bywydau. Roedd y cyfle i weld bywyd gwyllt morol rhyfeddol Patagonia ym Mhort Puerto Pirámides yn uchafbwynt arbennig, a hoffwn ddiolch i Taith am gefnogi menter sy’n parhau i gryfhau’r cyfeillgarwch hanesyddol rhwng Cymru a Phatagonia.”
Cofiwch ddilyn Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service ar Facebook ac Instagram, ac @CeredigionIfanc ar TikTok. Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaeth, y cyfleoedd sydd ar y gweill a'r cymorth sydd ar gael drwy ymweld â gwefan - Ceredigion Youth Service - Cymraeg - Ceredigion Youth Service.
29/09/2026