Cynhadledd Gofal Plant a Chwarae Ceredigion 2026 yn ysbrydoli’r sector
Cynhaliodd Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion Gynhadledd Gofal Plant a Chwarae 2026 fywiog a llawn egni yng Ngwesty’r Plu Aberaeron ar 8 a 9 Mai 2026.

Wedi’i ariannu gan Grant Hyfforddiant a Chymorth Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru, denodd y digwyddiad dros 70 o weithwyr o'r sector gofal plant a chwarae o bob cwr o’r sir, ar gyfer diwrnod o ddysgu, myfyrio a chydweithio.
Roedd y mynychwyr yn cynnwys Gwarchodwyr Plant, Meithrinfeydd Dydd, Clybiau Tu Allan i Oriau Ysgol a Chylchoedd Meithrin/Grwpiau Chwarae, ac mi gafodd pob un ohonynt fudd o’r areithiau gwybodus, y gweithdai ymarferol a’r cyfleoedd i fyfyrio gyda chydweithwyr o’r sector.
Cafwyd prif araith ddifyr, ar y testun Chwarae ar gyfer Heddiw, Yfory a’r Dyfodol, gan yr ymgynghorydd addysgol Alice Sharp, a gydnabyddir yn rhyngwladol fel un sy’n arbenigo yn y blynyddoedd cynnar, gan roi’r plentyn wrth galon popeth. Bu’r mynychwyr yn ystyried egwyddorion chwarae, dychymyg, archwilio, a chyswllt ag eraill, ac yn ystyried sut y gellid ail-ddehongli’r rhain i gwrdd ag anghenion byd sy’n newid yn gyflym.
Cyflwynodd Carys Davies, Rheolwr Strategol Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion sesiwn addysgiadol ar hyfforddiant, gan arddangos y platfform archebu hyfforddiant a thywys y gweithlu trwy’r ffyrdd gorau o gael mynediad at yr hyfforddiant gorfodol, yn ogystal â chyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Roedd y mynychwyr yn gwerthfawrogi’r cymorth i gofrestru ar y system, ac wedi’u cyffrou gyda’r amrywiaeth o hyfforddiant sydd ar gael.
Cyflwynwyd dau Weithdy gan Alice Sharp yn ystod y dydd. Roedd 'Nature’s Elements: Artful Encounters in the Early Years’ yn cynnig syniadau ymarferol, ac ysgogiad i droi llefydd yn dirweddau synhwyraidd cyfoethog ar gyfer meddwl a mynegiant. Roedd yr ail weithdy, ‘Head, Hands and Heart - The Six Core Strengths of Children’, yn darparu strategaethau ymarferol i rymuso addysgwyr i feithrin deallusrwydd emosiynol, gwydnwch, a pherthnasoedd iach.
Roedd yna werthfawrogiad mawr o’r gynhadledd fel cyfle i weithwyr gofal plant prysur ddod at ei gilydd i fyfyrio, dysgu, a rhannu syniadau. Roedd yr adborth gan y mynychwyr yn eithriadol o bositif, a chanmolwyd egni a brwdfrydedd y gweithdai a’r brif araith, a’r cymorth a gynigir gan yr Uned Gofal Plant.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o fynychwyr o’r sector gofal plant a chwarae, sy’n gweithio mor galed i ddarparu gofal o ansawdd da i blant Ceredigion. Mae eu hymrwymiad a’u gwaith caled yn cael ei werthfawrogi’n fawr.’
Ychwanegodd Carys Davies, Rheolwr Strategol Gofal Plant: “Yn dilyn llwyddiant cynhadledd y llynedd, rydym wrth ein boddau ein bod wedi llwyddo i gynnig cyfle dysgu arall ysbrydoledig a llawn cymhelliad i sector Gofal Plant a Chwarae Ceredigion. Mae eu hymrwymiad i’w proffesiwn yn werthfawr i rieni a gofalwyr, gan ganiatáu iddynt fynychu gwaith a hyfforddiant.”
I ddysgu mwy am darparu gwasanaeth gofal plant a/neu chwarae, e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk neu ewch i Darparu Gwasanaeth Gofal Plant a/neu Chwarae – Cyngor Sir Ceredigion
I ddod o hyd i ofal plant yn eich ardal chi, ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru
18/06/2026