Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyllid o £2.95m Innovate UK wedi’i ddyfarnu i naw prosiect technoleg amaeth a thechnoleg bwyd

Mae naw prosiect arloesol ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru wedi sicrhau cyfanswm o £2.95 miliwn mewn cyllid Ymchwil a Datblygu Cydweithredol gan Innovate UK, gan gryfhau ecosystem arloesi technoleg amaeth a thechnoleg bwyd y rhanbarth.

Mae’r prosiectau’n rhan o Glwstwr Technoleg Amaeth a Bwyd Canolbarth a Gogledd Cymru, rhaglen a gynlluniwyd i yrru arloesedd ar draws y sectorau yma. Cydlynir y rhaglen gan y Sefydliad Rheoli Clwstwr, dan arweiniad Tyfu Canolbarth Cymru, ac fe’i cyflwynir mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru, M-SParc, ArloesiAber, AMRC Cymru, Innovate UK a Llywodraeth Cymru. Mae’r clwstwr yn hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd cyllido ac yn darparu cymorth pwrpasol i fusnesau a phartneriaid ymchwil, gan helpu i gyflymu datblygiadau technolegol mewn amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.

Mae’r cyllid yn cefnogi cydweithio rhwng busnesau, ymchwilwyr a phartneriaid cyflenwi i ddatblygu technolegau, cynhyrchion a phrosesau newydd sy’n ymateb i heriau allweddol sy’n wynebu’r sector amaeth-fwyd, gan gynnwys cynhyrchiant, cynaliadwyedd, iechyd cnydau, pecynnu a gwydnwch bwyd.

Dywedodd Louise Jones, Rheolwr Cymru Innovate UK: “Mae’r dyfarniadau hyn yn tynnu sylw at ddyfnder gallu arloesi ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru. Mae cyllid Ymchwil a Datblygu Cydweithredol yn helpu busnesau i weithio gyda phartneriaid i leihau risg, cyflymu arloesedd a dod â syniadau newydd yn nes at y farchnad.”

Caiff y prosiectau a ariennir eu cefnogi drwy Glwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd Canolbarth a Gogledd Cymru, sy’n dod â busnesau, ymchwilwyr a phartneriaid cyflenwi ynghyd i gyflymu arloesedd. Mae’r Clwstwr Technoleg Amaeth, a reolir gan M-SParc, yn cefnogi busnesau sy’n gweithio mewn technolegau amaethyddol megis ffermio manwl, awtomeiddio a biotechnolegau, gan eu cysylltu â chyfleusterau arbenigol, arbenigedd a digwyddiadau wedi’u teilwra. Mae’r Clwstwr Bwyd-amaeth, a reolir gan AberInnovation, yn canolbwyntio ar arloesedd mewn gweithgynhyrchu bwyd, prosesu a chynaliadwyedd, gan helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion newydd, gwella cynhyrchiant a chryfhau diogelwch bwyd.

Mae’r ddau glwstwr yn cael eu harwain gan grŵp llywio strategol sy’n cynnwys partneriaid rhanbarthol allweddol, gan sicrhau bod gweithgareddau’n cyd-fynd ag anghenion busnesau, blaenoriaethau rhanbarthol a chyfleoedd twf yn y dyfodol ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru.

Y naw prosiect a ariennir yw:

Diagnostig Ltd, Ynys Môn

HERALD (Gwella Iechyd drwy Asesu Cyflym Clefydau Da Byw): llwyfan diagnostig cyflym ar gyfer canfod clefyd Johne’s yn gynnar mewn gwartheg, gan gefnogi buchesi iachach, cynhyrchiant gwell a gwyliadwriaeth clefydau yn y dyfodol.

Lacuna Space Ltd, Ceredigion

STREAMS (Technoleg Gofod ar gyfer Amgylcheddau Afonydd a Synwyryddion Monitro Amaethyddol): datblygu system monitro ansawdd dŵr cost isel, wedi’i chysylltu â lloerennau, i helpu ffermwyr ac awdurdodau i olrhain llygredd maetholion, cefnogi cydymffurfiaeth reoleiddiol a gwella iechyd afonydd, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig anghysbell.

Polytag Limited, Sir y Fflint (yn gweithio gydag AMRC Cymru ac ystod o fusnesau ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru)

Olrhain digidol a straeon ar gyfer bwyd a diod Cymru, gan greu platfform cod QR hawdd ei ddefnyddio sy’n helpu cynhyrchwyr bach i fodloni gofynion labelu newydd wrth rannu straeon cynnyrch cyfoethog, amlieithog gyda defnyddwyr.

Lanotech Ltd, Powys

Gwlân Cymreig yn gynhwysion bwydo premiwm: trosi gwlân Cymreig gwerth isel yn lanolin gradd bwydo, egni-uchel i ddisodli soia ac olew palmwydd wedi’u mewnforio, gan greu model amaethyddol cylchol sy’n cynyddu incwm ffermydd, lleihau allyriadau a chryfhau economïau gwledig.

RapidX Bio Ltd, Ceredigion

Diagnosteg cyflym ar gyfer clefydau planhigion ac iechyd pridd: datblygu system brofi â llaw ar y fferm, sy’n canfod clefydau cnydau a microbau pridd buddiol mewn munudau, gan helpu ffermwyr i weithredu’n gynharach, lleihau mewnbynnau a gwella cynnyrch yn gynaliadwy.

Neurabotics Ltd, Ceredigion

Technoleg cynaeafu mefus lled-ymreolaethol: datblygu system gynaeafu robotig cyflym i helpu tyfwyr ffrwythau meddal yn y DU i leihau costau, gwella cynhyrchiant ac adfer proffidioldeb, wrth gryfhau diogelwch bwyd domestig.

Agroceutical Products Ltd, Powys, Sir Ddinbych a Gwynedd

Bracken for the Circular Economy (BraCE): trawsnewid rhedyn ymledol yn gyfrwng tyfu cynaliadwy, di-fawn, gan greu incwm newydd i ffermydd wrth gefnogi lleihau mawn, amaethyddiaeth gylchol ac economïau gwledig.

PlantSea Ltd, Sir Ddinbych

Deunydd pecynnu bwyd cynaliadwy yn seiliedig ar wymon: datblygu ffilmiau pecynnu ailgylchadwy a gellir eu compostio gartref o wymon i ddisodli plastigau untro a lamineiddiadau alwminiwm o fewn systemau ailgylchu presennol.

TetrimTeas Cyf, Ceredigion a Gwynedd

NutriBREAD Cymru: datblygu bara gwyn wedi’i wella’n faethol gan ddefnyddio madarch a dyfir yng Nghymru i gynyddu fitamin D, protein a ffibr, gwella iechyd y cyhoedd a chefnogi cynhyrchu bwyd rhanbarthol cynaliadwy.

Dywedodd Barbara Green, Rheolwr Prosiect ar gyfer Sefydliad Rheoli Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd Canolbarth a Gogledd Cymru, Tyfu Canolbarth Cymru: “Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn arddangos yr uchelgais, y creadigrwydd a’r rhagoriaeth dechnegol sy’n dod o Ganolbarth a Gogledd Cymru. Yr un mor bwysig, mae’r buddsoddiad hwn yn cael ei wario yn y rhanbarth — gan gefnogi busnesau, ymchwilwyr a ffermwyr lleol i droi syniadau beiddgar yn arloesiadau ymarferol sydd â’r potensial i gyflawni manteision economaidd ac amgylcheddol i’r rhanbarth.”

Dywedodd Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen Amaeth-fwyd a Thwristiaeth Bargen Twf Gogledd Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru: “Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu gwerth cydweithio rhanbarthol, gan gefnogi busnesau i raddio arloesedd a chyfrannu at economi ranbarthol fwy cynhyrchiol.”

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn ymuno â naill ai’r clwstwr Amaeth-fwyd neu Dechnoleg Bwyd, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol, gael rhagor o wybodaeth ar wefan Tyfu canolbarth Cymru: https://www.tyfucanolbarth.cymru/TechAmaethTechBwyd

26/01/2026