Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyfle i ddysgu mwy am yr hyn sydd i ddod yn Llettytwppa

Bydd cyfle i aelodau’r gymuned, darpar-ddysgwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad Fferm Llettytwppa ymuno â’r diwrnod agored nesaf i glywed am gynlluniau’r fferm a’r cyrsiau prentisiaeth fydd yn cael eu cynnig yno.

Cynhelir y diwrnod agored ddydd Gwener, 06 Mawrth 2026, rhwng 10:00 a 15:00.

Daw’r diwrnod agored yn dilyn noson ymgysylltu gadarnhaol iawn ac yna dau ddiwrnod agored llwyddiannus dros ben, i tua 160 o ddisgyblion o Flwyddyn 10 i 13 o ysgolion Ceredigion, ym mis Rhagfyr y llynedd.

Bydd y diwrnod agored hwn yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn cyrsiau sy’n gysylltiedig â’r sector amaethyddol a gwledig i ddysgu mwy am y cyfleoedd fydd ar gael iddynt. Bydd cynrychiolaeth o fusnesau a sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r sector amaeth yn bresennol i ddarparu gweithgareddau, arddangosiadau, cyngor a chymorth, trwy gydol y dydd.

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd Hyfforddiant Ceredigion yn cynnig dau lefel o brentisiaethau amaethyddol ar Fferm Llettytwppa, sef Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a Phrentisiaeth Lefel 3. 

Yn ystod y diwrnod agored, bydd sesiynau ymarferol yn cael eu cynnal, gan gynnwys ffensio, creu pocer â ffwrnais nwy, tasgau cynnal a chadw fel ail-doi, gosod pibellau dŵr, gwneud pibellau brêc, a thasg sodro (soldering).

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddilyn cyrsiau prentisiaeth lefel 2 neu 3 yn y dyfodol i alw heibio i fferm Llettytwppa yn ystod ein diwrnod agored i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael. Estynnwn wahoddiad hefyd i deuluoedd y darpar-ddysgwyr, ffrindiau, sefydliadau, busnesau a’r gymuned ehangach Bydd Fferm Llettytwppa yn chwarae rôl allweddol yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i aros yn eu cymunedau i ddysgu, byw a llwyddo.”

Manylion y dydd

  • Cynhelir y diwrnod agored ddydd Gwener, 06 Mawrth 2026, rhwng 10:00 a 15:00.
  • I gofrestru eich diddordeb i ymuno â’r diwrnod agored, cysylltwch â Hyfforddiant Ceredigion Training trwy e-bostio info@ceredigion.org.uk neu ffonio 01970633040.
  • Bydd cyfleusterau parcio ar gael ar Gampws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan y Drindod Dewi Sant, gyda chludiant wedi’i drefnu i Lettytwppa ac yn ôl.
  • Ni chaniateir cŵn oni bai am gŵn arwain.
  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas.

27/02/2026