Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ceredigion Oed-Gyfeillgar yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth i herio oedraniaeth

Mae Ceredigion Oed-Gyfeillgar yn gwahodd trigolion hŷn i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd sy'n dathlu byw bywyd i'r eithaf wrth heneiddio ac yn herio stereoteipiau sy'n gysylltiedig ag oedran.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Oed Heb Gyfyngiadau ar 10 Mehefin 2026, a bydd yn archwilio'r thema “Herio Oedraniaeth” gan annog pobl sy'n 50 oed a'n hŷn sy'n byw yng Ngheredigion i gyflwyno ffotograffau sy'n adlewyrchu profiadau, cyfraniadau ac amrywiaeth pobl hŷn o fewn cymunedau lleol.

Mae'r gystadleuaeth wedi'i threfnu fel rhan o waith Ceredigion Oed-Gyfeillgar i ddathlu heneiddio cadarnhaol a chefnogi paratoadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar 1 Hydref 2026, pan fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.

Gall cyfranogwyr gyflwyno hyd at dri ffotograff gwreiddiol. Ni ddylid golygu'r delweddau'n ddigidol na’u cynhyrchu gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI), a dylent ymwneud â bywydau, profiadau neu gynrychioli pobl 50 oed a'n hŷn sy'n byw yng Ngheredigion.

Mae'r gwobrau'n cynnwys:

  • Y wobr gyntaf – Taleb gwerth £30 o ddewis yr enillydd
  • Yr ail wobr – Taleb gwerth £20 o ddewis yr enillydd
  • Y drydedd wobr – taleb gwerth £10 o ddewis yr enillydd

Gall y ceisiadau buddugol, neu rai eraill sy'n cael eu dewis, gael eu cynnwys hefyd mewn deunyddiau hyrwyddo, cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i'r wasg ac arddangosfeydd cymunedol Ceredigion Oed-Gyfeillgar yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Hyrwyddwr Pobl Hŷn Cyngor Sir Ceredigion: “Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniadau, profiadau a straeon cadarnhaol pobl hŷn ledled Ceredigion, gan hefyd annog sgyrsiau am oedraniaeth a sut rydym yn herio stereoteipiau ynghylch heneiddio.

Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan a rhannu ffotograffau sy'n cyfleu amrywiaeth, gwydnwch, cysylltiadau a phrofiadau bob dydd pobl hŷn o fewn ein cymunedau.”

Mae'r gystadleuaeth yn cau ar 3 Medi 2026.

Dylai ceisiadau gynnwys enw'r cyfranogwr, manylion cyswllt, a theitl neu ddisgrifiad byr o'r ffotograff.

Dylid cyflwyno’r ffotograffau ar ffurf JPEG neu PNG lle bo'n bosibl. Delweddau gwreiddiol, o ansawdd uchel sy’n cael eu ffafrio.

Gellir cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i connecting@ceredigion.gov.uk neu drwy'r post i’r cyfeiriad isod:

Ceredigion Oed-Gyfeillgar 
Cyngor Sir Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA

10/06/2026