Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Bws yr Arglwydd Rhys i deithio rhwng Aberteifi ac Eisteddfod y Garreg Las

Bydd ymwelwyr ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2026 yn gallu manteisio ar wasanaeth bws rhad ac am ddim rhwng canol tref Aberteifi a maes Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd rhwng 01 ac 08 Awst.

Cadwch olwg allan am yr arwyddion ar gyfer Bws yr Arglwydd Rhys fydd yn rhedeg bob dydd o 7.00yb tan 12.00 canol nos yn ystod wythnos cyntaf Awst.

Bydd y bws wennol hwn, sy’n rhad ac am ddim ac wedi’i ariannu’n llawn gan Gyngor Sir Ceredigion, yn cynnig ffordd gyfleus a chynaliadwy o deithio i'r Maes, gan roi cyfle hefyd i ymwelwyr fwynhau popeth sydd gan Aberteifi i'w gynnig.

Bydd y bws:

  • yn gadael Sgwâr Finch, Aberteifi ar yr awr, bob awr.
  • yn gadael Maes yr Eisteddfod ar yr hanner awr, bob awr.
  • yn rhad ac am ddim, ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.

 Anogir ymwelwyr i barcio yn un o feysydd parcio'r dref cyn ymuno â’r bws o arhosfan bws Sgwâr Finch, SA43 1BS.

Mae’r fenter yn cynnig y cyfle perffaith i archwilio Aberteifi yn ystod y dydd ac i mewn i’r nos. Gyda’i siopau annibynnol, caffis a bwytai, ynghyd â Chastell Aberteifi, sef man geni’r Eisteddfod gyntaf a gynhaliwyd ym 1176, bydd hwn yn gyfle i ddysgu mwy am yr Arglwydd Rhys ei hun wrth inni nodi 850 mlynedd ers y digwyddiad hanesyddol hwn.

Bydd nifer o siopau annibynnol, caffis a bwytai’r dref hefyd yn cynnal cynigion arbennig drwy gydol yr wythnos, gan roi croeso cynnes i ymwelwyr ar yr un pryd.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: Rydym yn falch iawn o allu cynnig y gwasanaeth hwn yn ystod yr Eisteddfod. Mae’n darparu ffordd hawdd i bobl deithio i’r Maes, gan hefyd roi cyfle i ymweld ag Aberteifi yn ystod y flwyddyn arbennig hon sy’n nodi 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi, yn ogystal â chefnogi’r busnesau lleol sy’n gwneud Aberteifi mor arbennig."

Mae rhagor o wybodaeth am yr Eisteddfod ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Eisteddfod Genedlaethol Cymru; ac mae manylion llawn am yr ŵyl ar gael ar wefan swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol: 2026 | Eisteddfod.

10/07/2026