Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Buddsoddiad mawr i drawsnewid Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Mae cynlluniau’n mynd rhagddynt ar gyfer gwaith adnewyddu sylweddol ac estyniad yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, ynghyd â datblygu Canolfan Trochi Iaith newydd.

Bydd y prosiect yn moderneiddio adeilad presennol yr ysgol ac yn darparu bloc dosbarthiadau dau lawr newydd, gan gynnwys 10 ystafell ddosbarth, ystafell staff, mannau ymyrraeth a chyfleusterau gwell.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth yw’r unig ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth ar hyn o bryd, ac mae’r datblygiadau arfaethedig yn rhan bwysig o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor.

Bydd y Ganolfan Trochi Iaith newydd yn chwarae rôl ganolog wrth gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal gan ddarparu mwy o gyfleoedd i deuluoedd lleol gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, a helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a chefnogi’r broses o drosglwyddo holl ysgolion eraill yn Aberystwyth tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Dysgu Sylfaen erbyn Medi 2027.

Dywedodd Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Mae’n wych bod y prosiect yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, sy’n cael ei ariannu drwy’r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg, wedi cychwyn. Rwy’n edrych ymlaen at weld y buddsoddiad hwn yn arwain at fwy o leoedd cyfrwng Cymraeg ac i gefnogi dysgwyr sy’n newydd i'r iaith gael y cyfle gorau i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus.  Bydd hyn yn cyfrannu tuag at ein nod o miliwn o leiaf o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Mae’r prosiect hwn yn ganolog i’n huchelgais i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn gallu cael mynediad at Addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel yn lleol. Bydd y cyfleusterau newydd a’r Ganolfan Trochi Iaith yn cefnogi dysgwyr ar bob cam o’u taith ac yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach a mwy cynaliadwy i’r Gymraeg yn ein cymunedau.”

Dywedodd Steve Davies, Cyfarwyddwr Wynne Construction: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein penodi i gyflawni prosiect estyniad ac adnewyddu Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac i fod yn gweithio unwaith eto gyda Chyngor Sir Ceredigion. A ninnau wedi cwblhau Ysgol Dyffryn Aeron, rydym yn deall pwysigrwydd y mae Ceredigion yn ei roi ar greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n cefnogi disgyblion, staff a’r gymuned ehangach. Mae’r penodiad diweddaraf hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar y berthynas lwyddiannus honno ac i ddod â’n profiad o gyflawni prosiectau addysg mewn amgylcheddau ysgol sy’n parhau i fod ar agor i Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth agos gyda’r Cyngor, yr ysgol a thîm y prosiect i ddarparu cynllun a fydd yn cynnig buddion parhaol i addysg Gymraeg yn Aberystwyth.”

Disgwylir hefyd y bydd y gwelliannau’n dod â manteision ehangach, gan gynnwys cyfleusterau addysgu gwell, llai o ddefnydd ynni ac allyriadau carbon, a gwell cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth wedi’i thargedu i ddisgyblion.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n llawn drwy Gynllun Grant Cyfalaf cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.

07/07/2026