Be You Yoga yn ehangu ei ddarpariaeth llesiant gyda chefnogaeth Cynnal y Cardi
Mae Be You Yoga yn Aberteifi yn ehangu ei ddarpariaeth llesiant drwy gyflwyno ‘Pilates Reformer’, gyda chefnogaeth cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU), a ddarperir gan dîm Cynnal y Cardi Cyngor Sir Ceredigion.
Sefydlwyd Be You Yoga gan Nia Jones yn 2019 ac mae wedi datblygu’n ofod cynhwysol sy’n cynnig ioga, myfyrdod, iachâd sain, dawns, gweithdai cyfannol a diwrnodau encil. Mae ei ddosbarthiadau’n denu pobl o bob rhan o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, gan gefnogi llesiant corfforol a meddyliol a meithrin ymdeimlad cryf o gymuned.
Mae llwyddiant parhaus y busnes wedi galluogi Nia i adael ei swydd ran-amser a chanolbwyntio’n llawn ar Be You Yoga. Mae’r busnes bellach yn cynhyrchu digon o incwm i’w chynnal yn llawn-amser, gan adlewyrchu ei dwf a’i gynaliadwyedd hirdymor.
Drwy’r prosiect, mae chwe pheiriant ‘Pilates Reformer’ wedi’u cyflwyno, ynghyd â chyfleoedd hyfforddi i Nia a dau hyfforddwr lleol. Mae’r math hwn o ymarfer corff effaith isel yn helpu i wella cryfder, ystum a hyblygrwydd, gan gynnig gwasanaeth ychwanegol i gwsmeriaid presennol a denu cwsmeriaid newydd.
Mae’r ehangu’n mynd i’r afael â bwlch yn y ddarpariaeth leol, gyda Be You Yoga yn dod yn un o’r darparwyr cyntaf i gynnig ‘Pilates Reformer’ yng Ngheredigion a Sir Benfro. Mae’r galw am y dosbarthiadau eisoes wedi galluogi’r busnes i sicrhau uned ychwanegol, gan greu lle pwrpasol ar gyfer y peiriannau a chefnogi twf pellach.
Dywedodd Nia Jones, sylfaenydd Be You Yoga: “Mae Be You Yoga wastad wedi ymwneud â chreu gofod cynhwysol lle gall pobl ddod ynghyd, symud a chefnogi eu llesiant. Mae twf y busnes wedi fy ngalluogi i ymroi iddo’n llawn-amser, gan greu cyfleoedd i eraill hefyd.
“Mae cyflwyno ‘Pilates Reformer’ yn ein galluogi i ehangu ein darpariaeth, cefnogi hyfforddwyr lleol a chynnig rhywbeth newydd i’r gymuned, gan aros yn driw i’n gwerthoedd o hygyrchedd, cymuned a chynaliadwyedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: “Mae’n wych gweld busnes lleol yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael drwy Cynnal y Cardi i ddatblygu ac ehangu ei ddarpariaeth. Mae busnesau lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn economi Ceredigion, ac mae buddsoddiadau fel hyn yn eu helpu i dyfu, datblygu gwasanaethau newydd a chreu cyfleoedd yn lleol. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Be You Yoga wrth iddynt barhau i ddatblygu.”
Mae’r gronfa bellach wedi cau.
16/11/2026