Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Awdurdod Lleol Ceredigion yn Cefnogi Mudiad Cenedlaethol Plentyndod Heb Ffonau Clyfar

Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth ag ysgolion a theuluoedd ledled y sir, yn falch o gyhoeddi ei gefnogaeth i’r mudiad cenedlaethol Plentyndod Heb Ffonau Clyfar. Mae’r menter yn hyrwyddo plentyndod sy’n llawn rhyddid, chwarae ac ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol.

Cefndir y Fenter

Mae’r mudiad yn annog rhieni a gofalwyr i oedi cyn darparu ffonau clyfar tan o leiaf 14 oed, ac i osgoi defnyddio cyfryngau cymdeithasol tan 16 oed. Fel rhan o’i ymrwymiad, mae’r Cyngor wedi rhannu canllawiau ymarferol gydag ysgolion ac wedi darparu adnoddau i gefnogi lleihad mewn amser sgrin a chreu arferion iach i deuluoedd.

Nid polisi nac orfodaeth gyfreithiol yw’r ymgyrch yma, menter wirfoddol a arweinir gan y gymuned ydyw, sy’n seiliedig ar gydweithio rhwng teuluoedd, ysgolion a chymunedau lleol. Yn genedlaethol, mae’r fenter eisoes wedi denu momentwm sylweddol, gyda dros 151,000 o deuluoedd a 12,000 o ysgolion wedi llofnodi’r cytundeb, yn ôl y wefan genedlaethol.

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae tystiolaeth gynyddol yn cysylltu gorddefnydd ffonau clyfar â:

  • lefelau uwch o bryder ac iselder
  • problemau cysgu
  • gostyngiad mewn gallu i ganolbwyntio
  • mwy o unigedd cymdeithasol

Trwy ohirio mynediad at ffonau clyfar, gall plant elwa ar well lles meddwl, mwy o ffocws yn yr ysgol, ac mwy o ryngweithio wyneb-yn-wyneb. Mae’r fenter hefyd yn cyfrannu at ddiogelu pobl ifanc rhag risgiau ar-lein megis seiberfwlio a chynnwys amhriodol.

Dechreuodd y Cyngor gydweithio â rhieni ac ysgolion yn nhymor yr haf 2025. Er bod y fenter yn ei chamau cynnar yn lleol, mae diddordeb a chefnogaeth yn tyfu’n gyflym, gyda mwy o deuluoedd ac ysgolion yn cofrestru o wythnos i wythnos.

Dywedodd Laurie Hughes, Athro Ymgynghorol Llesiant Uwch: “Rydym am roi’r cyfle gorau i blant ffynnu’n rhydd o bwysau cysylltedd cyson a’r posibilrwydd o niwed. Mae’r fenter hon yn ymwneud â sicrhau plentyndod iach a hapus i bob plentyn a pherson ifanc yng Ngheredigion. Mae ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol wedi bod yn bwnc llosg ers tro, ac rydym yn dechrau gweld newid mewn agweddau a diwylliant, yn lleol, yn genedlaethol a byd-eang.”

Ychwanegodd Cynghorydd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r ymgyrch yma bendant yn cynghori pobl ifanc Ceredigion i gael plentyndod mwy iach a chytbwys. Mae tystiolaeth yn glir fod lleihau mynediad cynnar at ffonau clyfar yn gallu hybu lles, diogelwch a pherthnasau cymdeithasol cadarnhaol. Rydym yn falch o weithio gyda theuluoedd ac ysgolion ar draws y sir i feithrin amgylchedd lle gall plant dyfu, dysgu a ffynnu heb bwysau diangen technoleg sy’n addasu’n rhy gyflym.”

19/01/2026