Ailgylchu wrth ymyl y palmant yng Ngheredigion yn cyrraedd uchelfannau newydd
Yn ystod chwe mis olaf 2025, mae trigolion Ceredigion wedi ailgylchu mwy o'u gwastraff nag erioed o'r blaen, ac mae'r Cyngor yn dymuno diolch i bawb am "wneud y peth iawn".
Mae’r data rhwng mis Gorffennaf a Rhagfyr 2025 yn dangos gostyngiad o dros 540 tunnell ym mhwysau'r gwastraff gweddilliol (bagiau du) a gasglwyd wrth ymyl y palmant o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, sy'n ostyngiad o 15% mewn gwastraff gweddilliol.
Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd pwysau'r deunyddiau a gyflwynwyd wrth ymyl y palmant mewn bagiau ailgylchu clir 8%, a chynyddodd y gwastraff bwyd 11%.
Mae'r gwelliannau hyn yn dilyn data sy'n dangos y gallai bron i hanner y gwastraff a geir mewn bagiau gwastraff gweddilliol wrth ymyl y palmant fod wedi cael ei ailgylchu. Mewn ymateb, cyflwynodd y Cyngor gyfyngiadau gwastraff gweddilliol newydd i annog trigolion i wahanu deunyddiau ailgylchadwy i'r cynwysyddion cywir.
Ers 23 Mehefin 2025 mae aelwydydd Ceredigion wedi cael eu cyfyngu i 180 litr (3 bag x 60 litr) o wastraff gweddilliol yn ystod cylch casglu tair wythnos. Ochr yn ochr â hyn, mae'r Cyngor wedi rhoi proses ar waith i aelwydydd wneud cais am gapasiti gwastraff gweddilliol ychwanegol, lle bo angen, ac mae'n parhau i ddarparu casgliad ar wahân o gynhyrchion hylendid amsugnol.
Ar yr un pryd, cyflwynwyd arferion gwastraff heb eu didoli hefyd yn ein safleoedd gwastraff cartref. O ganlyniad, rhwng mis Gorffennaf a Rhagfyr 2025, cofnododd y safleoedd ar gyfartaledd ostyngiad o 30% mewn gwastraff gweddilliol, o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Mae'r data yn dangos nad oedd unrhyw newid yn nifer y bagiau gwastraff gweddilliol cartref a gafodd eu tipio yn y chwe mis cyn ac ar ôl cyflwyno'r cyfyngiadau. Mae’r data hefyd yn dangos nad oes cynnydd wedi bod ym mhwysau gwastraff a gasglwyd mewn biniau sbwriel ers cyflwyno'r cyfyngiadau.
Fodd bynnag, hoffem atgoffa pawb bod tipio anghyfreithlon yn drosedd, a bod biniau sbwriel ar y stryd ar gyfer sbwriel wrth fynd heibio yn unig.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r ymateb i'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol wedi bod yn hynod gadarnhaol. Yn amlwg, mae trigolion Ceredigion wedi wynebu'r her ac yn ailgylchu mwy o'u gwastraff nag erioed. Mae'r gwelliannau mewn cyfraddau ailgylchu wrth ymyl y palmant, ac mewn safleoedd gwastraff cartref, yn helpu i gadw adnoddau naturiol y ddaear mewn cylchrediad am gyfnod hirach, gan leihau allyriadau carbon. Mae hyn yn newyddion gwych i'r amgylchedd, ac rydym am ddiolch i bawb am wneud y peth iawn. Mae'r newidiadau mewn arferion ailgylchu yn helpu'r Cyngor i gyrraedd targed ailgylchu statudol, sydd ar hyn o bryd yn 70%, tra hefyd yn lleihau costau gwaredu gwastraff."
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau ar gael ar dudalen we’r Cyngor: Gwastraff Gweddilliol - Cyngor Sir Ceredigion
08/04/2026