Aelodau Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn ymweld â San Steffan
Ar 7 Gorffennaf 2026, teithiodd Gwilym Morus, disgybl Ysgol Penweddig sy’n cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain fel Aelod Seneddol Ifanc, Hannah Bowhay, disgybl Ysgol Gyfun Aberaeron sy’n Is-gadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion a Freya Pritchard, sy’n ddisgybl Ysgol Penglais a Chadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, i Lundain i gwrdd ag Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake.
Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch San Steffan gan AS Ben Lake, sesiwn holi ac ateb, cyfarfod staff ac aelodau seneddol eraill, a chyfle i eistedd yn yr oriel i wylio a gwrando ar ddadleuon oedd yn digwydd yn y siambr. Roedd y daith yn gyfle i bobl ifanc ddysgu am hanes Palas San Steffan, gwaith Senedd y DU, sut y defnyddir y mannau gweithio amrywiol yr ymwelwyd â hwy a ffyrdd y gall pobl ifanc gymryd rhan ac ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.
Dywedodd Freya Pritchard, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, “Roedd ymweld â San Steffan yn brofiad ysbrydoledig ac yn agoriad llygad. Roedd gweld yr Aelodau Seneddol ar waith a bod yn dyst i ddadl fyw wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o’r broses wleidyddol. Mae’r profiad hwn wedi rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar waith mewnol Senedd y DU. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi i gryfhau ymhellach y berthynas rhwng ein Cyngor Ieuenctid lleol a Llywodraeth y DU, gan ganiatáu inni rymuso lleisiau pobl ifanc”

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ben Lake a’i swyddfa am roi cyfle mor wych i ni eto eleni. Fe wnaethon ni fwynhau teithio i Lundain a threulio’r prynhawn gydag ef, yn cael golwg ‘tu ôl i’r llenni’ o ystâd Seneddol San Steffan, a dysgu mwy am rôl Aelodau Seneddol a’u gwaith. Cafodd y bobl ifanc eu hysbrydoli gan y cyfle ac fe wnaethon ni fwynhau’r profiad yn fawr. Rydym yn ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth parhaus i waith Cyngor Ieuenctid Ceredigion a’n haelodau ieuenctid.”
Dywedodd Ben Lake, AS Ceredigion, "Cefais y pleser o groesawu Freya, Hannah a Gwilym i San Steffan ar ddechrau mis Gorffennaf. Roedd yn galonogol gweld pobl ifanc yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth oherwydd yn y pen draw, nhw yw'r dyfodol ac mae eu brwdfrydedd yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas well i bawb. Rydw i'n gobeithio bod y daith wedi bod o fudd iddynt, a'u bod wedi medru datblygu eu dealltwriaeth o sut mae ein system wleidyddol yn gweithio. Edrychaf ymlaen at glywed mwy ganddynt yn y dyfodol. Pob dymuniad da i chi.”
Dywedodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae cyfleoedd fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ifanc i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae democratiaeth yn gweithio a sut y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau. Mae’n braf gweld aelodau Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn cynrychioli’r sir yn San Steffan ac yn manteisio ar y profiadau gwerthfawr hyn. Hoffwn ddiolch i Ben Lake AS am ei barodrwydd parhaus i gefnogi a chynnal ymweliadau o’r fath.”
31/07/2026