Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ysgrifennydd y Cabinet yn cwrdd ag Aelodau Cyngor Ieuenctid Ceredigion

Ar 02 Mehefin 2025, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS, ag Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan i ddysgu mwy am Gynllun Urddas Mislif Ceredigion.

Nod y cynllun, sy'n cael ei arwain gan is-grŵp ymroddedig o bobl ifanc o Gyngor Ieuenctid Ceredigion, yw hyrwyddo urddas mislif a mynd i'r afael â thlodi mislif trwy ddefnyddio Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i Ysgrifennydd y Cabinet glywed gan gynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid sef Casey Harkess (Ysgol Bro Pedr), Lleucu Nest (Ysgol Gyfun Penweddig) a Kiani Francis (Ysgol Penglais) am bwysigrwydd urddas mislif, eu blaenoriaethau lleol a'r ddarpariaeth sydd ar gael yng Ngheredigion.

Dywedodd Kiani Francis, Aelod Seneddol Ieuenctid dros Geredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru: “Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwych i ni arddangos y ddarpariaeth Urddas Mislif sydd ar gael yng Ngheredigion. Mae'n bwysig bod pobl yn cael eu cefnogi i gael iechyd mislif da, fel nad oes neb dan anfantais oherwydd eu mislif. Mae Is-grŵp Urddas Mislif Ceredigion yn arwain ar bob math o fentrau, a gychwynnir gan bobl ifanc, gan fynd i'r afael â materion y mae pobl ifanc ledled y sir yn teimlo sy'n bwysig o ran tlodi mislif a hyrwyddo urddas mislif. Cawsom y cyfle i siarad am ein mentrau diweddar megis creu canllawiau urddas mislif ar gyfer ysgolion Ceredigion, sicrhau darpariaeth o ddillad sbâr ym mhob ysgol uwchradd a datblygu sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr. Roedd yn gyfle i dynnu sylw ymhellach at bwysigrwydd y cynllun hwn i ni i gyd yng Ngheredigion.”

Ynghyd ag aelodau’r Cyngor Ieuenctid, yn bresennol yn ystod yr ymweliad oedd Mrs Carys Morgan (Pennaeth Ysgol Bro Pedr), Mrs Kizzie Garner-Hughes (Arweinydd Lles, Ysgol Bro Pedr), y Cynghorydd Wyn Thomas (Aelod Cabinet dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes), Lowri Edwards (Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Ceredigion), Lowri Evans (Rheolwr Tîm, Tîm Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion), Nikki Davies (Gweithiwraig Ieuenctid Ysgol Bro Pedr) a Lucy Simmonds-Dickens (Rheolwraig Urddas Mislif, Llywodraeth Cymru).

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Rydym yn falch iawn o’r gwaith sydd wedi’i gyflawni ac sy’n parhau i gael ei gyflawni gan bobl ifanc fel rhan o Is-grŵp Urddas Mislif Ceredigion. Maent yn arwain y ffordd o ran sicrhau iechyd mislif o ansawdd da a theg i bawb ac roedd yn wych gallu dangos i Ysgrifennydd y Cabinet sut mae Ceredigion yn arwain y ffordd. Hoffwn estyn fy niolch i’r bobl ifanc, ac i Ysgol Bro Pedr, sy’n hyrwyddo Urddas Mislif trwy amrywiaeth o fentrau gwahanol gyda llais y disgybl yn ganolog, am gynnal yr ymweliad ac am y croeso cynnes.”

Am ragor o wybodaeth am Urddas Mislif yng Ngheredigion, ewch i: Urddas Mislif yng Ngheredigion