Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ysgolion Uwchradd Ceredigion yn cael hwyl yn y Talwrn y Beirdd Ifanc

Cynhaliwyd y pedwerydd Talwrn y Beirdd Ifanc rhwng ysgolion uwchradd Ceredigion yn Aberteifi dros y penwythnos.

Mae’r ornest hon wedi’i chynnal yn flynyddol ers 2022, pan sefydlwyd Talwrn y Beirdd Ifanc Ceredigion ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y sir.

Yn ystod mis Mehefin, bu beirdd preswyl yn ymweld â saith ysgol uwchradd y sir i annog ac ysbrydoli criw o ddisgyblion i gystadlu mewn Talwrn y Beirdd Ifanc.

Bu’r beirdd preswyl yn ymweld â’r ysgolion canlynol:

  • Aneirin Karadog – Ysgol Bro Pedr;  
  • Anwen Pierce – Ysgol Bro Teifi;
  • Eurig Salisbury – Ysgol Gyfun Aberaeron;
  • Endaf Griffiths – Ysgol Henry Richard;
  • Hywel Griffiths – Ysgol Penglais;
  • Arwel Rocet Jones – Ysgol Penweddig;
  • Gwenallt Llwyd Ifan – Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Penllanw hynny oedd cystadleuaeth Talwrn y Beirdd Ifanc a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi, nos Wener 04 Gorffennaf 2025 ar drothwy Gŵyl Fawr Aberteifi, a hynny o dan ofal y Meuryn, sef y Prifardd Ceri Wyn Jones.

Trefnwyd y digwyddiad gan Anwen Eleri Bowen, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Ceredigion, a ddywedodd: “Ymfalchïwn fod ein saith ysgol uwchradd mor awyddus i fod yn rhan o’r Talwrn a diolch yn fawr i’r beirdd am fodloni i fentora a chydweithio gyda’r criw. Mae’r Talwrn yn cynnig profiadau gwerthfawr a chyfoethog i’n disgyblion. Mae’n gyfle euraidd i griw bach o ddisgyblion gael cwmni bardd am ddiwrnod i weithio a chreu gwaith creadigol ar gyfer cystadleuaeth. Mae’n gyfle i ysgrifennu’n greadigol yn unigol ac ar y cyd, trafod a rhannu barn am waith ei gilydd, mireinio’r gwaith ar y cyd, a’r penllanw oedd gweld y gwaith wedi ei ddatblygu i weithiau gorffenedig a glywsom nos Wener.”

“Mae profiad o’r fath yn datblygu hyder y disgyblion i rannu eu gwaith yn gyhoeddus a bod yn barod am feirniadaeth a gobeithio yn eu hannog i gynnig eu gwaith i gystadlaethau llenyddol yn ein heisteddfodau lleol. Diolch yn fawr i’r ysgolion a’r beirdd am eu cydweithrediad ac hefyd i Gastell Aberteifi a Gŵyl Fawr Aberteifi am rhoi lle yn y calendr a chartref i'r digwyddiad.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn Talwrn y Beirdd Ifanc. Dyma gyfle gwych iddynt ddangos eu doniau a hogi eu sgiliau creadigol. Mae’n wych gweld y gystadleuaeth hon yn parhau, gan gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i ddarpar feirdd talentog iawn.”

Llongyfarchiadau i griw o Ysgol Gyfun Aberaeron am ddod yn fuddugol yn y gystadleuaeth.