Ysgolion Ceredigion yn elwa o gronfa Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru
Mae Ysgolion Ceredigion wedi gweld gwelliannau trawiadol i'w cyfleusterau a'u hadnoddau ar ôl derbyn cyllid o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (CDC) Llywodraeth Cymru.
Mae pedair Ysgol yng Ngheredigion wedi elwa o gyllid Band B gan y gronfa Cymunedau Dysgu Cynaliadwy:
• Ysgol Dyffryn Aeron
• Ysgol Gynradd Aberteifi
• Ysgol Uwchradd Aberteifi
• Canolfan y Môr, Ysgol Gyfun Aberaeron
Ysgol Dyffryn Aeron
Agorwyd Ysgol Dyffryn Aeron ym mis Ionawr 2025, ar ôl i dair ysgol Gynradd; Ysgol Gynradd Ciliau Parc, Ysgol Gynradd Dihewyd ac Ysgol Gynradd Felinfach gau eu drysau. Fel rhan o’r datblygiad hwn adleoliwyd y Ganolfan Iaith i’r safle. Creodd hefyd gyfleuster Gofal Plant ar gyfer plant 2 i 4 oed, clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol/gwyliau newydd, gan gynyddu’r lleoedd gofal plant yn yr ardal. Yn ogystal, crëwyd uned Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a chae pob tywydd y gall y gymuned ei ddefnyddio.
Cyfanswm cost y prosiect, a oedd yn cwmpasu pedair elfen (prif adeilad yr ysgol a Chanolfan Iaith, Uned ADY, Gofal Plant, a Charbon Sero Net), oedd £16,300,000. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ariannu £11,670,414 trwy grantiau a’r gweddill gan Gyngor Sir Ceredigion.
Ysgol Gynradd Aberteifi
Fe wnaeth Ysgol Gynradd Aberteifi elwa o waith adnewyddu ac estyniad. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu ystafell ddosbarth meithrin newydd ar gyfer deg ar hugain o ddisgyblion gyda mannau allanol cysylltiedig, dwy ystafell ddosbarth newydd, bloc cyswllt gydag ystafell staff, toiledau, prif dderbynfa, swyddfeydd ac ystafell rieni. Gwaredwyd dwy ystafell ddosbarth dros dro, ychwanegwyd lifft newydd ac allanfa mewn argyfwng newydd ar gyfer y bloc addysgu deulawr, diweddarwyd y system wresogi i fod yn fwy effeithlon o ran ynni a chost, a gosodwyd system dân newydd ar draws yr ysgol.
Cost y prosiect oedd £3,067,340, gyda £1,000,000 wedi’i ariannu o'r grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod, £1,322,500 gan Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru / Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, a’r gweddill gan Gyngor Sir Ceredigion.
Ysgol Uwchradd Aberteifi
Cafodd Ysgol Uwchradd Aberteifi estyniad a gwnaed gwaith ailfodelu i flociau presennol. Fel rhan o’r gwaith, gwnaed estyniad tri llawr newydd i’r bloc addysgu gan gynnwys 8 ystafell ddosbarth, ystafelloedd a stiwdio TGCh, toiledau, ystafelloedd ymyrraeth, swyddfeydd cyfadran, ac ardaloedd symud. Yn ogystal, gwnaed estyniad i greu stiwdio ddrama bwrpasol, estyniad i'r Neuadd Fwyta, ailfodelu mewnol ac estyniad ar y llawr cyntaf i greu 2 labordy gwyddoniaeth newydd o'r radd flaenaf, ailfodelu mewnol i greu mannau cyffredin myfyrwyr, toiledau ychwanegol, ystafell staff, prif fynedfa fwy diogel a boeler ynni-effeithlon newydd. Roedd hefyd rhywfaint o ailfodelu mewnol o ran ystafelloedd newid y merched er mwyn eu codi i’r safonau disgwyliedig.
Gwnaeth y cyllid helpu’r ysgol symud o adeilad gategori C i gategori A/B. Cost y prosiect oedd £5.8miliwn, ac roedd £3,770,000 wedi’i ariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru Ysgolion yr 21ain Ganrif / Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, a gweddill y swm gan Gyngor Sir Ceredigion.
Canolfan y Môr, Ysgol Gyfun Aberaeron
Canolfan adnoddau arbenigol yw Canolfan y Môr sy’n arbenigo mewn diwallu anghenion disgyblion sydd ag awtistiaeth/anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu difrifol rhwng 11 ac 19 oed. Ychwanegodd y cyllid estyniad newydd i'r ganolfan gydag ad-drefnu mewnol ac adnewyddu’r cynllun presennol. Ychwanegwyd ardal chwarae galed a chanopi newydd ynghyd ag ardal chwarae/hamdden. Crëwyd gardd synhwyraidd newydd gyda gosodiadau i'r ffensys diogelwch y perimedr, a derbynfa newydd i’r ysgol.
Cyfanswm cost y prosiect oedd £1,401,180, gyda £1,050,885 wedi’i ariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru Ysgolion yr 21ain Ganrif / Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B, a’r gweddill gan Gyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Mae'n wych gweld Ysgolion Ceredigion yn elwa o gyllid Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sydd wedi helpu i wneud yr adnoddau sydd ar gael yn ein hysgolion hyd yn oed yn well i helpu meithrin diwylliant iach o ddysgu."