Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ysgolion Ceredigion yn disgleirio yn un o gystadlaethau treftadaeth mwyaf Ewrop

Mae ysgolion ledled Ceredigion wedi cael eu cydnabod am eu cyflawniadau rhagorol ym Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2025.

Mae'r fenter, sydd wedi bodloi ers 35 o flynyddoedd, yn un o'r cystadlaethau hanes blynyddol mwyaf yn Ewrop. Mae'n dathlu ysgolion sy'n rhagori mewn addysgu a dysgu am dreftadaeth, gan annog disgyblion i archwilio a rhannu eu straeon lleol a chenedlaethol.

Yn y gystadleuaeth eleni roedd 12,000 o ddisgyblion o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 04 Gorffennaf 2025.

Derbyniodd ysgolion Ceredigion nifer o wobrau, gan gynnwys:

  • Ysgol Gymunedol Ceinewydd – £800, a noddir gan Sefydliad Moondance a tharian am yr ysgol gynradd orau yng Nghymru. Archwiliodd dysgwyr hanes morwrol a diwylliannol Ceinewydd trwy gyfryngau digidol.
  • Ysgol Plascrug – £750, a noddir gan Sefydliad Moondance. Cynhaliodd y disgyblion astudiaeth fanwl o gartrefi a ffyrdd o fyw Fictoraidd yng Nghymru.
  • Ysgol Gynradd Aberaeron – £600, a noddir gan Sefydliad Hodge ac E-sgol. Dathlodd yr ysgol dreftadaeth Aberaeron trwy sioe Nadolig ysgol gyfan, gan uno'r gymuned mewn naratif hanesyddol creadigol.
  • Ysgol Gymraeg Aberystwyth – £600, a noddir gan Sefydliad Hodge. Ymchwiliodd dysgwyr i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, gan gynhyrchu prosiect wedi'i ymchwilio'n dda a'i gyflwyno'n greadigol.
  • Ysgol Talgarreg – £450, a noddir gan Sefydliad Moondance. Ymchwiliodd y disgyblion i'w hardal leol a'u ffigurau nodedig, gan greu fideo a gwefan i ddathlu eu hardal a'i harwyddocâd cenedlaethol.
  • Ysgol Dyffryn Cledlyn – £450, a noddir gan Sefydliad Hodge. Canolbwyntiodd yr ysgol ar warchod chwedlau Cymreig, cymryd rhan mewn adrodd straeon, ymweliadau safle, ac arddangosfeydd cymunedol i gadw llên gwerin lleol yn fyw.
  • Ysgol Llanilar – £300, a noddir gan Sefydliad Moondance. Ail-greodd y disgyblion brofiad faciwîs yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys taith trên stêm ac arddangosfa gymunedol.
  • Ysgol Penrhyncoch – £500, a noddir gan SWIEET (Gwobr Treftadaeth Ddiwydiannol).  Wedi'u hysbrydoli gan ymweliad â mwynglawdd sinc lleol, archwiliodd y disgyblion hanes mwyngloddio Cymru a thrychineb Senghennydd.
  • Ysgol Penglais – £600, a noddir gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Hodge, a Chymdeithas Archaeolegol Cambrian. Bu disgyblion Blwyddyn 9 yn ymchwilio i filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf o Aberystwyth a chreu cofebion digidol, gan gynnwys placiau cod QR i'w gosod ar feddau yn Ffrainc.

Yn y categori EUSTORY ôl-16, sy'n cysylltu haneswyr ifanc ar draws 28 o wledydd Ewropeaidd, derbyniodd Elan Mabbutt o Ysgol Gyfun Penweddig ac Efa Jenkins o Ysgol Bro Teifi £75 yr un, a noddwyd gan Sefydliad Moondance, a'r cyfle i fynychu Uwchgynhadledd Ieuenctid EUSTORY yn Fflorens, yr Eidal.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: "Mae safon eithriadol gwaith ysgolion Ceredigion yn adlewyrchu ymgysylltiad dwfn dysgwyr â'u treftadaeth. Mae'n ysbrydoledig gweld y fath angerdd a balchder yn ein hanes. Diolch i'r dysgwyr ac i'w hathrawon am eu harweinyddiaeth wrth gyflawni’r prosiectau diddorol hyn."

Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn parhau i gael ei chefnogi gan sefydliadau fel Amgueddfa Cymru, Sefydliad Moondance, Sefydliad Hodge, a Cadw.