
Ysgol Dyffryn Aeron yn ennill statws BREEAM eithriadol
Mae Ysgol Dyffryn Aeron wedi cael ei choroni'n adeilad addysg sydd â'r sgôr uchaf yn y DU gan system ardystio flaenllaw'r byd.
Datblygwyd Ysgol Dyffryn Aeron gan Cyngor Sir Ceredgion ac Wynne Construction, ac mae wedi derbyn yr anrhydedd yma ar ôl ennill sgôr eithriadol o 93.69% o dan Gynllun Addysg BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu) 2018.
Y cyfleuster newydd hwn, sy’n werth £16.3m ac a ddaeth â thair ysgol gynradd ynghyd, sef Ciliau Parc, Dihewyd, a Felinfach, yw'r ail brosiect addysgol yng Nghymru i sicrhau'r radd uchaf.
Agorwyd Ysgol Dyffryn Aeron gan Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan AS ym mis Mawrth 2025. Mae’r Ysgol yn gallu darparu addysg ar gyfer hyd at 210 o ddisgyblion, gyda chapasiti ychwanegol ar gyfer ADY, y Gymraeg a darpariaeth cyn-ysgol. Mae derbyn y sgôr eithriadol yn foment bwysig iawn i’r ysgol hon.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: "Mae Ysgol Dyffryn Aeron yn cynnig addysg o'r radd flaenaf i'n disgyblion ac yn darparu cyfleuster sy’n addas i'r 21ain ganrif, yn ogystal â chyfleusterau i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r ysgol yn arddangos cydweithio gwych ar draws y Cyngor, contractwyr a Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch iawn o dderbyn achrediad BREEAM eithriadol sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad yng Ngheredigion i gynaliadwyedd."
Dywedodd cyfarwyddwr Wynne Construction, Richard Wynne: "Mae hwn yn gyflawniad hynod arwyddocaol gan y tîm cyfan, yn enwedig o ystyried y cymhlethdodau sy'n ymwneud â sicrhau marc mor uchel. Er mwyn cyflawni sgôr eithriadol, rhaid i gynlluniau sgorio uwchlaw 85%, felly mae’n anhygoel cyrraedd 93% a bod yr adeilad addysg sydd â'r sgôr uchaf yn y DU. Heb gydweithio rhwng y cleient, Cyngor Sir Ceredigion, y contractwyr, a'r gadwyn gyflenwi, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl, a dylai rhannau cyfunol y cynllun fod yn falch o'r gwaith sydd wedi’i wneud."
Mae BREEAM (BREEAM | Sustainable Building Certification) yn darparu fframwaith asesu cynaliadwyedd, sy'n mesur gwerth mewn cyfres o gategorïau sy'n mynd i'r afael â ffactorau fel dylunio effaith isel a lleihau allyriadau carbon. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli, dŵr, ynni, trafnidiaeth, gwastraff, llygredd, iechyd a lles, ac arloesi.