Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Y Cyngor yn cytuno i ostwng nifer y Prif Swyddogion

Cytunodd Cyngor Sir Ceredigion i leihau nifer y Prif Swyddogion o 16 i 14, gan arwain at arbediad net o £120,000 y flwyddyn.

Yn dilyn cyfarfod y Cyngor ar 17 Gorffennaf 2025, mae rolau un Cyfarwyddwr Corfforaethol a'r Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros dro ar gyfer Ysgolion yn cael eu dileu o strwythur y Prif Swyddogion a bydd y cyfrifoldebau hyn yn awr yn cael eu rhannu ymhlith y swyddogion sy'n weddill. Cytunwyd ar strwythur cyflogau newydd ar gyfer y Prif Swyddogion i adlewyrchu'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn. 

 

Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnal adolygiad fesul cam o strwythur graddfeydd cyflog y Cyd-Gyngor Cenedlaethol (NJC), sy'n berthnasol i ran fwyaf staff y Cyngor, i sicrhau ei fod yn addas i'r diben a’i fod, cyn belled ag y bo modd, yn diogelu model cyflogau’r Cyngor ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor:

 

"Mae Ceredigion yn gyngor sy'n perfformio'n rhagorol a chaiff hyn ei gydnabod yn glir yn yr adroddiadau cadarnhaol iawn gan Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Archwilio Cymru. Bydd y newidiadau y mae’r Cyngor wedi cytuno iddynt yn golygu y gallwn ni barhau â’r gwaith hwn a mynd i’r afael â'r heriau sy'n wynebu Llywodraeth Leol.

 

“Mae'r gostyngiad net o £120,000 y flwyddyn yn nhâl Phrif Swyddogion a'r newidiadau i’r strwythur cyflogau, yn rhoi'r Cyngor ar sail gadarn i sicrhau bod ein cyflogau'n gystadleuol o gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill a darparwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn y rhanbarth. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i gadw staff rhagorol ac i ddenu'r dalent orau.

 

"Mae'r newidiadau yn cydnabod y cyfrifoldebau ychwanegol y bydd ein Prif Swyddogion yn eu hysgwyddo; a bydd canlyniadau’r adolygiad o strwythur graddfeydd cyflog yr NJC yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor maes o law."

 

Mae hwn yn gostyngiad pellach yn nifer yr Phrif Swyddogion, sydd wedi'i leihau o fwy na thraean dros y 12 mlynedd ddiwethaf.