Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhybuddion Llifogydd: Afon Teifi yng Nghenarth, Llechryd a Chastellnewydd Emlyn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd llifogydd yn ne Ceredigion yn dilyn y glaw uchel dros nos.

Disgwylir llifogydd ar gyfer eiddo ger Afon Teifi yng Nghenarth gan gynnwys y Melinau Llifio yn Abercych; eiddo ger Afon Teifi yn Llechryd gan gynnwys ffordd yr A484 a Phont Llechryd; ac eiddo ger Afon Teifi yng Nghastellnewydd Emlyn gan gynnwys y cae rygbi.

Mae’r rhybuddion canlynol hefyd yn berthnasol i Geredigion: Rhybudd Llifogydd ar gyfer Aron Tyweli Ffordd yr Orsaf Llandysul; Rhybudd i fod yn barod am Lifogydd ar gyfer Afon Teifi Isaf a Llanw Uchel ar yr Arfordir.

Mae Pont Llechryd, yr A484 yn Llechryd, a'r B4476 Llandysul i Brengwyn ar gau ar hyn o bryd.

Byddwch yn ofalus wrth deithio y bore yma a pheidiwch â gyrru trwy ddŵr llifogydd.

Rhowch wybod am achosion o lifogydd ar-lein – CLIC@Ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881 (yn ystod oriau swyddfa).

Mewn argyfwng (y tu allan i oriau swyddfa) cysylltwch â 01970 625277 (ar gyfer Gogledd Ceredigion) a 01239 851604 (ar gyfer De Ceredigion).

Gallwch gael diweddariadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cael eu diweddaru bob 15 munud, yma: Rhybuddion Llifogydd 

Os ydych chi'n poeni neu'n profi llifogydd, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 gan ddefnyddio'r rhif deialu cyflym 603120.